Neidio i'r prif gynnwy

"Mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd wedi fy newid er gwell" meddai Amber Davies

6 Medi 2021

Mae prentis gofal iechyd lleol yn rhannu ei thaith emosiynol o weithio yn ystod y pandemig COVID-19 ar gyfres podlediad newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Amber Davies ar hyn o bryd yn ei ail flwyddyn y Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd (agor mewn dolen newydd) saith mlynedd y bwrdd iechyd ac ar ôl ei chwblhau bydd hi’n nyrs cymwysedig.

“Cefais fy nhaflu i'r pen dwfn a bu’n rhaid i mi addasu’n gyflym. Pan fyddaf yn gymwys, gallaf edrych nôl a meddwl... rwyf wedi cyflawni hynny.”

Yn ystod y ddwy flwyddyn gyntaf, mae prentisiaid yn gweithio yn gylchdroadau tair mis yn wahanol adrannau ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. 

Yn dechrau yn bractis anghlinigol gan gynnwys gwaith domestig, porthorion a therapi galwedigaethol yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli. Yna, symudodd Amber i ward iechyd meddwl yn ystod y pandemig. 

“Pan oeddwn i'n gweithio yn ward iechyd meddwl Bryn Golau, cawsom frigiad o achosion. Cafodd staff a chleifion eu profi a phrofais yn bositif am COVID-19.

“Roeddwn i'n iawn, collais fy synhwyrau’n unig. Yn byw gartref, roeddwn i'n poeni am fy nheulu yn ei dal, felly ynysais yn fy ystafell gwely” 

Dros y cyfnod Nadolig yn 2020 symudodd Amber i weithio ar ward COVID-19, lle gweithiodd hi ar Noswyl Nadolig. 

“Roedd yn anodd iawn beidio â mynd yn emosiynol a chefais fy synnu fy mod i’n mynd yn emosiynol.  

“Doeddwn i ddim eisiau i gleifion fy ngweld a meddwl bod hynny’n wael iawn, eu bod nhw’n sâl iawn. Ond wedyn, nid oedd y cleifion hyn yn cael unrhyw ymwelwyr ac felly cawsom ein cysylltu’n emosiynol, felly roedd yn drallodus ar brydiau.”  

Roedd Amber i fod i symud o’r ward COVID-19 ar ôl tair mis, ond roedd y brigiad o achosion yn golygu bod yn rhaid iddi aros yn hirach. 

Mae rhaid i chi fod yn gryf i'ch cleifion a’u theuluoedd, yn enwedig pan rydych chi’n siarad â’r teuluoedd dros y ffon, mae’n anodd iawn.  

Roedd prif nyrs o ward Amber yn trefnu cyfarfod dydd Gwener wythnosol o’r enw ‘grŵp huddle’ fel ffurf o gefnogaeth i'r staff ar y ward. 

“Byddem ni gyd yn ôl-drafod gyda’n gilydd ar ddydd Gwener a gallem siarad am unrhyw beth o gwbl, roedd yn braf.  

“Gan ddod adref at fy nheulu nad oes ganddynt unrhyw gefnir meddygol, nid oeddent yn deall, roedd yn braf siarad â phobl a oedd hefyd wedi byw yn yr eiliadau hynny. 

“Gan ddod adref o’r gwaith roedd yn anodd anghofio am y cleifion, yn enwedig pan maen nhw wedi bod yn sâl iawn. 

“Byddwn yn dod adref a cheisio cymaint ag y gallwn i dynnu sylw fy hun a mynd allan o’r tŷ.” 

Gobeithir y bydd gardd goffa ar gyfer goroeswyr COVID-19 a’r rhai a gollodd eu bywydau yn anffodus yn cael ei rhoi mewn gardd yn Ysbyty’r Tywysog Philip. 

“Mae’n rhywle i eistedd a’u cofio, rhywle i deimlo’n agos atynt oherwydd nad oedd (teulu a ffrindiau) yn gallu eistedd gyda nhw yn eu munudau olaf.  

Bydd Amber yn dechrau ei hyfforddiant nyrsio'r flwyddyn nesaf.

“Dwi eisiau cwblhau’r brentisiaeth yn gyntaf, yn llwyddiannus gobeithio, wedyn tra byddaf yn cwblhau’r wahanol brofiadau hyn, mewn gwahanol feysydd clinigol, byddaf yn mynd oddi yno. 

“Yna byddaf yn gallu darganfod beth hoffwn arbenigo ynddo, lle hoffwn weithio a mynd oddi yno bryd hynny. 

“Rwyf wedi gweithio yn y gwasanaethau iechyd anadlol ac iechyd meddwl. Rydw I wedi mwynhau’r ddau, ond mae yna lawer mwy o arbenigeddau, felly byddaf yn cadw fy opsiynau ar agor.” 

Gwrandewch ar bodlediad llawn Amber (agor mewn dolen newydd), hefyd ar gael ar Spotify.

Podlediadau Hywel Dda (agor mewn dolen newydd).