Neidio i'r prif gynnwy

Mae timau gweithlu a recriwtio Hywel Dda yn cynnig cymorth i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg

1 Awst 2022

Bydd timau gweithlu a recriwtio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn rhannu sut y maent yn adeiladu ar gryfderau staff a’u gweithlu yn y dyfodol yn yr Eisteddfod yn Nhregaron, yn ogystal â lansio fideo i ddangos yr amgylchedd cefnogol y mae’r bwrdd iechyd yn ei gynnig i’r siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

Dewch draw i stondin y bwrdd iechyd unrhyw ddiwrnod i ddarganfod mwy am y cyfleoedd gyrfa helaeth yn y bwrdd iechyd, yn ogystal â swyddi gwag cyfredol, y gallwch eu gweld ar-lein o fan hyn (agor yn ddolen newydd).

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol: “Rydym yn gyffrous i fod yn yr Eisteddfod Genedlaethol i allu dweud wrth bobl leol ac ymwelwyr am y cyfleoedd o fewn y bwrdd iechyd, o ddatblygu gyrfa i fuddion staff a mwy. Wrth ymuno â’r bwrdd iechyd, cewch eich cefnogi i ddatblygu eich gyrfa a’ch annog i fanteisio ar unrhyw gyfle sydd ar gael. Fel cyflogwr rydym yn gweithio i gefnogi ein staff sydd yn y pen draw yn cefnogi ac yn gofalu am ein cleifion.”

Bydd fideo sgiliau dwyieithog yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos yn yr Eisteddfod yn cynnwys hanes Sarah Pask, Nyrs Eiddilwch Clwstwr De Ceredigion, sydd wedi elwa o gael cefnogaeth i ddysgu Cymraeg yn y gweithle. Dywedodd Sarah: “Os yw pobl yn teimlo’n sâl mae’n braf siarad eu hiaith gyntaf a gobeithio y bydd y claf yn teimlo’n fwy cyfforddus.”

Mae’n hanfodol bod cleifion yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith, felly mae’n bwysig bod staff yn gallu cyfathrebu’n ddwyieithog gyda chleifion. Os na allwch siarad Cymraeg, mae'r bwrdd iechyd yn barod i'ch cefnogi trwy gynnig amrywiaeth o gyrsiau gwahanol. O gyrsiau lefel Mynediad hyd at Hyfedredd. Mae cwrs i bawb!

Bydd Tîm Gweithlu’r Dyfodol y bwrdd iechyd yn cynnal sgyrsiau penodol ar gyfleoedd gwirfoddoli am 1pm ddydd Gwener 5, dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Awst. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wirfoddoli i'r bwrdd iechyd yma (agor yn ddolen newydd).

Ar y stondin gallwch hefyd ddarganfod mwy am swyddi gwag presennol yn ogystal â chynlluniau i gefnogi pobl i weithio gyda ni, megis prentisiaethau llwyddiannus ac eang y bwrdd iechyd.

Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd gwaith diweddaraf dilynwch @SwyddiHDdaJobs ar Twitter, @SwyddiHywelDdaJobs ar Facebook neu chwiliwch am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar LinkedIn.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Hywel Dda i’w gynnig yn yr Eisteddfod, ewch i: Hywel ar y Maes (agor yn ddolen newydd).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf o stondin y bwrdd iechyd a Maes yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIPHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac Instagram @hywelddauhb neu ddilyn y sgwrs yn #HywelArYMaes ac #IechydDaHywelDda.