Neidio i'r prif gynnwy

Hywel ar y Maes

27 Gorffennaf 2022

Boed yn ddysgu i arwyddo neu ganu Yma o Hyd gyda therapyddion iaith a lleferydd yng nghwmni Dafydd Iwan, neu’n agor sgyrsiau am fyw a marw trwy’r traddodiad lleol o sanau angladd, mae yna amrywiaeth eang o weithgareddau iechyd i ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig croeso cynnes i bawb yn eu stondin ar y Maes. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cynnig gweithgareddau amrywiol drwy gydol yr wythnos (mwy o fanylion isod), a bydd staff y bwrdd iechyd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys trafodaethau ar stondinau a llwyfannau eraill.  

Bydd y timau gofal lliniarol a Chelfyddyd mewn Iechyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth (agor yn dolen newydd) ar Lwyfan y Llannerch, am 2:15pm ddydd Sul 31 Gorffennaf, am fywyd a marwolaeth, celf a meddygaeth – gan rannu hanes gwau sanau angladd yn Nhregaron.

Bydd cam darganfod iaith a diwylliant Cymru y Bwrdd Iechyd – lle rydym yn gofyn i’n cymunedau beth sydd bwysicaf iddynt o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru o fewn iechyd – yn cael ei lansio gan ddarlledwraig y BBC Beti George am 3pm ddydd Llun, 1 Awst ar stondin y bwrdd iechyd.

Bydd Dafydd Iwan yn ymuno â’r tîm Therapïau Iaith a Lleferydd am 2pm ddydd Mercher, 3 Awst, i ganu ac arwyddo Yma o Hyd – dod â’r gân yn fyw trwy gân ac iaith arwyddion.

Bydd ymwelwyr â’r stondin hefyd yn cael y cyfle i siarad am strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach a sut y bydd yn gwella iechyd mewn cymunedau lleol.

Yn ogystal, bydd cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac i gwrdd â thimau gwahanol yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:

  • Bydd Therapïau Iaith a Lleferydd yn cynnal sesiynau iaith arwyddion Babis Parablus (bob dydd am 11am) a sesiynau stori (bob dydd am 12pm a 3pm). Mae’r tîm Therapïau Iaith a Lleferydd hefyd yn cydweithio â’r Eisteddfod i ddarparu byrddau cyfathrebu iaith a lleferydd newydd sy’n adnoddau gweledol ac arwyddion defnyddiol i unigolion ac sy’n dangos sut y gall gwyliau wneud eu digwyddiadau yn fwy cyfeillgar a chynhwysol o ran cyfathrebu.
  • Bydd y Tîm Imiwneiddio a Brechu yn gallu ateb unrhyw gwestiynau am imiwneiddiadau a brechiadau (dydd Sadwrn cyntaf, dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener).
  • Bydd y Tîm Recriwtio yn rhannu’r ystod eang o gyfleoedd swyddi sydd ar gael yn y Bwrdd Iechyd ac yn lansio’r fideo sgiliau dwyieithog sy’n amlygu manteision dysgu Cymraeg, a’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg, yn y bwrdd iechyd (bob dydd).
  • Yn ogystal â bod ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am wirfoddoli a gyrfaoedd o fewn y bwrdd iechyd, bydd Tîm Gweithlu'r Dyfodol yn cynnal sgyrsiau penodol ar gyfleoedd gwirfoddoli am 1pm ar y ddau ddydd Sadwrn, y dydd Sul a’r dydd Gwener.
  • Bydd Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau wrth law i wirio eich pwysedd gwaed a rhoi cyngor (dydd Sadwrn cyntaf a dydd Iau).
  • Bydd y Tîm Iechyd Ieuenctid yn tynnu sylw at wasanaeth negeseuon testun newydd CHATHEALTH ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion (dydd Sadwrn cyntaf).
  • Os ydych yn ceisio cyngor ar iechyd traed, gan gynnwys y posibilrwydd o atgyfeiriad at raglen Addysg Traed Camau Iach ar gyfer trigolion Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, bydd y Tîm Podiatreg ar gael i ateb pob cwestiwn yn ymwneud â’r traed ddydd Llun.
  • Bydd tîm Cynllun Gwên wrth law ddydd Mawrth i roi cyngor ar iechyd y geg – yn enwedig i blant ifanc a'u rhieni, gan gynnwys arddangosiad ar y ffordd orau o gadw dannedd yn lân ac yn iach.
  • Bydd y Tîm Llesiant Dementia yn cynnig asesiad sgrinio ar gyfer unigolion sy'n pryderu am eu newidiadau gwybyddol (dydd Sul) ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gan unigolion am y gwasanaeth dementia sydd ar gael i bobl sy'n byw yn yr ardal.
  • Bydd Tîm Anableddau Dysgu Ceredigion yn rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn lleol i unigolion a gofalwyr (dydd Sul).
  • Bydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn arddangos eu hymchwil a'u prosiectau arloesol gan gynnwys y Peilot Presgripsiwn Cymdeithasol, prosiect cadernid cymunedol Gofal Cardi (Pecyn Cymorth Gofal Solfach) ac Ar Eich Beic – sy'n cymell pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol (dydd Sul a dydd Iau).
  • Bydd tîm Elusennau Iechyd Hywel Dda yno i ateb unrhyw gwestiynau codi arian ac i godi ymwybyddiaeth am waith ein helusennau, a sut y gall unigolion gyfrannu at ein helusen (dydd Mawrth a dydd Mercher).
  • Bydd cynrychiolwyr o GIG Cymru i Gyn-filwyr ar y stondin (dydd Gwener) i roi cymorth a chyngor i gyn-filwyr.
  • Yn dilyn eu sgwrs ar Llwyfan Llannerch, bydd Celfyddyd mewn Iechyd yn arddangos y sanau angladd ar y stondin ac yn cynnal gweithdy celf i blant ar y dydd Iau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac arweinydd y Gymraeg, Alwena Hughes Moakes: “Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl leol ac ymwelwyr â’r Eisteddfod a dysgu mwy am yr hyn sydd bwysicaf iddynt ym maes iechyd a gofal, yn ogystal ag arddangos peth o'r gwaith gwych y mae ein timau GIG yn ei wneud ar gyfer y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Gobeithiwn fod rhywbeth at ddant pawb ar ein stondin. Rydym wrth ein bodd bod yr Eisteddfod yn gallu cael ei chynnal eleni ac rydym i gyd yn gyffrous i fod yn rhan o’r hyn sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad a dathliad adeiladol yn ein hardal leol.”

I gael y newyddion diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd a Maes yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac Instagram @bihywelddahb neu ddilyn y sgwrs yn #HywelArYMaes a #IechydDaHywelDda.