Neidio i'r prif gynnwy

Mae Tîm Smygu a Llesiant wedi cyrraedd rownd derfynol yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023

29 Medi 2023

Mae Tîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyrraedd rownd derfynol yng nghategori Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gorau yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023.

Mae'r tîm wedi cael eu cydnabod  am ddarparu gwasanaeth hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer y rhai sydd â phrofiadau byw iechyd meddwl sydd am roi'r gorau i ysmygu neu gwtogi ar eu ‘smygu.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae'n wych bod gwaith ein Tîm Smygu a Llesiant wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru eleni  – mae hwn yn fater iechyd cyhoeddus pwysig a hoffwn eu llongyfarch am y cyflawniad hwn.

"Yn sgil newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth, daeth ardaloedd cleifion mewnol iechyd meddwl yn ardaloedd di-fwg ym mis Medi 2022 ledled Cymru, yn unol â gweddill safleoedd ysbytai, felly mae gweld ein tîm yn cael ei gydnabod am wasanaeth rhagorol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyflawniad sylweddol.

Dywedodd Joanna Dainton, Pennaeth Gwella Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yn Hywel Dda: "Gweithiodd ein tîm Smygu a Llesiant  yn hynod o galed  i sicrhau bod cynlluniau ar waith i gefnogi cleifion a staff  yn ystod y newid hwn trwy ddarparu hyfforddiant i staff, ymweliadau wythnosol ag ardaloedd cleifion mewnol a sicrhau mynediad cyflym at therapi amnewid nicotin."

Dywedodd Lucy Duncanson, Uwch Ymarferydd Smygu a Llesiant o Dîm Gwella Iechyd y Boblogaeth Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: "Rydym yn falch bod ein gwaith i helpu cleientiaid iechyd meddwl i wella eu hiechyd a lleihau ysmygu wedi cael ei gydnabod.

"Rydym wedi llwyddo i wella ein gwasanaeth safonol i estyn allan at y rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl i'w cefnogi i leihau eu dibyniaeth ar dybaco. Rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau ein bod yn hyblyg gyda'r cymorth a ddarparwn, gan ei deilwra i ddiwallu anghenion cleientiaid unigol yn hytrach na disgwyl i gleientiaid gyd-fynd â model gwasanaeth traddodiadol.

Dywedodd Cath Einon, Rheolwr Datblygu Gwasanaeth y Tîm Smygu a Llesiant, "Rwy'n hynod falch o waith y tîm cyfan.  Mae'r tîm bron wedi dyblu nifer yr ysmygwyr sy'n cael eu cefnogi, sydd hefyd â chyflyrau iechyd meddwl, yn ystod y 12 mis diwethaf ac yn parhau i ddarparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim i'r holl staff, cleifion a'r cyhoedd yn Hywel Dda sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu."

Bydd enillwyr Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru 2023 yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun 2 Hydref yn y Gynhadledd Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghaerdydd.

Os ydych chi’n ystyried rhoi'r gorau i ysmygu ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro, cysylltwch â Thîm Smygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael cyngor a chefnogaeth am ddim drwy ffonio 0300 303 9652, e-bostio smokers.clinic@wales.nhs.uk neu drwy ymweld â Tîm ysmygu a lles - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) a llenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein.