Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i ysgrifennu ewyllys a gadael ddiolch

22 Ebrill 2022

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ymuno â chyfreithwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ystod Pythefnos Gwneud Ewyllys (9-20 Mai 2022) i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys. Mae'r cyfreithwyr yn ildio eu ffi arferol yn gyfnewid am rodd i'r elusen.

Mae’r pythefnos o ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys cyfredol i’w diweddaru. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Y cyfreithwyr sy’n cymryd rhan yw Cyfreithwyr Gomer Williams yn Llanelli, Cyfreithwyr Price a Kelway yn Aberdaugleddau, a Chyfreithwyr Powell Davies yn Aberystwyth.

Dywedodd Martin Davies, cyfreithiwr gyda chwmni Cyfreithwyr Powell Davies: “Mae Pythefnos Gwneud Ewyllys yn gyfle gwych i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy wneud ewyllys gallwch sicrhau y darperir ar gyfer eich teulu a'ch ffrindiau, yn ogystal â'r achosion sy'n bwysig i chi.

“Os oes gennych chi ewyllys yn barod, mae Pythefnos Gwneud Ewyllys yn gyfle perffaith i’w diweddaru a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu unrhyw newid yn eich amgylchiadau drwy enedigaeth, profedigaeth, newid mewn statws priodasol, symud tŷ, ac ati.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod dyfodol eich teulu yn ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu gwireddu – a hefyd i gefnogi eich GIG lleol.

“Bydd y rhodd a wneir i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. A bydd y rhai sy'n dewis gadael rhodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda, waeth pa mor fawr neu fach, yn ddiogel gan wybod y bydd eu cymuned yn teimlo manteision eu caredigrwydd am flynyddoedd i ddod.

“Hoffem ddiolch i’r holl gyfreithwyr sy’n cymryd rhan am eu cefnogaeth wych ac am roi o’u hamser gwerthfawr i ni.”

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma (agor mewn dolen newydd).