Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud ewyllys am ddim

26 Medi 2022

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi partneru â Farewill i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am ddim yn ystod mis Hydref 2022.

Mae’r mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys cyfredol i’w diweddaru. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Gellir ysgrifennu'r ewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn gyda'r darparwr ewyllys dibynadwy, Farewill, a gall gymryd llai na 30 munud. Mae tîm o arbenigwyr ar gael saith niwrnod yr wythnos i'ch helpu i ysgrifennu ewyllys o gysur eich cartref eich hun.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych a chyfleus i sicrhau bod dyfodol eich teulu’n ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu dilyn – a hefyd i gefnogi eich elusen GIG leol os ydych chi’n dewis gwneud hynny.

“Bydd hyd yn oed rhodd o 1% o’ch ystâd i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer, sy’n golygu y gallwch chi adael cymynrodd barhaol ar gyfer eich gwasanaethau GIG lleol.”

I sicrhau lle cliciwch yma, ffoniwch 01267 239815 neu e-bostiwch CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk.