Neidio i'r prif gynnwy

Mae digwyddiadau coffa Hywel Dda yn cefnogi teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan golli baban

Cannwyll yn fflachio

14 Medi 2026

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn flynyddol (9-15 Hydref) i godi ymwybyddiaeth o golli babanod mewn beichiogrwydd, ac i gofio babanod annwyl, a chefnogi'r y bywydau pobl sydd wedi cael eu cyffwrdd trwy y brpfediageth lem. Daw'r wythnos i ben gyda'r Don o Oleuni ryngwladol, pan fydd pobl ledled y byd yn goleuo canhwyllau er cof am fabanod a fu farw'n rhy gynnar.

Mae Tîm Gofal Ysbrydol Hywel Dda, ynghyd â gwasanaethau mamolaeth a gynaecoleg, wedi ymrwymo i gefnogi rhieni a theuluoedd sydd wedi colli plentyn yn dilyn genedigaeth farw, colled yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn amser nid yn unig i gofio ac anrhydeddu'r babanod hyn, ond hefyd i gydnabod yr effaith barhaol y mae eu colled yn ei chael ar rieni, aelodau ehangach o'r teulu, ffrindiau a'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi'u cefnogi.

Drwy gydol yr wythnos, bydd goleuadau glas a phinc yn goleuo yn y Capel/Ystafelloedd Tawel yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg er cof. Yn ogystal, bydd adeiladau cyhoeddus ledled rhanbarth Hywel Dda yn cael eu goleuo i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau coffa hefyd ar draws ardal Hywel Dda, gan gynnig lle diogel a thynrt i rieni, teuluoedd a ffrindiau sydd yn galaru colled or fath r ddod at ei gilydd, i fyfyrio ac i ddathlu bywydau babanod a fydd yn y cof am byth. Bydd aelodau o dimau'r Bwrdd Iechyd yn bresennol i gynnig cefnogaeth yn ystod y cyfarfodydd hyn.

  • Sir Benfro

Dydd Mawrth 6 Hydref 2026 am 7yh.

Lleoliad: Ysbyty Cyffredinol Llwyn Helyg, Hwlffordd - Capel / Ystafell Dawel

  • Sir Gaerfyrddin

Dydd Mercher 14 Hydref 2026 am 4.30yp

Lleoliad: Amgueddfa Parc Howard, Llanelli, SA15 3LJ

Bydd seremoni fer a blodau ffres yn cael eu gosod ar y garreg goffa er cof am fabanod sydd wedi marw’n rhy fuan.

Oherwydd y tywydd posib, bydd rhan gyntaf y gwasanaeth yn digwydd yng nghyntedd mynedfa Amgueddfa Parc Howard. Mae'r bwrdd iechyd yn ddiolchgar i staff Parc Howard, Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin am eu cefnogaeth.  Mae parcio ar y stryd ar gael ar Rhodfa Parc Howard.

  • Ceredigion

Dydd Iau 15 Hydref 2026 am 6.30yh

Lleoliad: Yr Atriwm (Y Cyntedd), Canolfan Rheidol, Cyngor Sir Ceredigion, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3GA

Bydd y gwasanaeth hwn yn arwain i mewn i Don Fyd-eang y Goleuni – Dydd Iau 15 Hydref, 7.00 pm

Gwahoddir chi'n gynnes i ymuno â ni trwy oleuo cannwyll gartref neu mewn man cymunedol am 7.00 yh (defnyddiwch ganhwyllau sy'n cael eu pweru gan fatris lle bo modd a chymerwch ofal os ydych chi'n defnyddio fflamau go iawn)

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle pwysig i gofio a dathlu bywydau babanod sy’n cael eu caru’n enfawr ac na chânt eu hanghofio byth.

“Trwy ein gwasanaethau coffa, y Ton y Goleuni a munudau personol o fyfyrio, rydym yn creu cyfleoedd i deuluoedd, ffrindiau a staff anrhydeddu bywydau gwerthfawr a dod o hyd i gysur trwy ddod at eu gilydd ac yn y sicrwydd o wybod eu bod wedi’u hamgylchynu gan ddealltwriaeth, tosturi a gofal tyner.”

Os na allwch fynychu y digwyddiad(au) ond y byddech yn dymuno danfon neges ymlaen i gael eich i’w gyflwyno a’i gynnwys, anfonwch e-bost at loved.forever.hdd@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaetg arnoch neu os ydych wedi cael eich effeithio gan Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, cysylltwch ag Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar euryl.howells2@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01267 227563