Neidio i'r prif gynnwy

Mae canolfan frechu torfol newydd ar gyfer de Ceredigion yn agor yn Ysgol Trewen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau bod ei ganolfan brechu torfol newydd ar gyfer de Ceredigion wedi agor yn Ysgol Trewen, Cwm Cou, SA38 9PE.

Mae'r ganolfan brechu torfol yng Nghanolfan Hamdden Teifi yn Aberteifi bellach ar gau i ganiatáu i waith adeiladu ddigwydd yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda, “ Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb oedd ynghlwm â’r barteriaeth hon gyda Chyngor Sir Ceredigion sydd wedi ein galluogi i ddosbarthu dros 35,000 o frechlynnau o Ganolfan Hamdden Teifi hyd yn hyn.

“Aberteifi oedd y ganolfan brechu torfol gyntaf a agorwyd gan y bwrdd iechyd y tu allan i ysbyty fis Rhagfyr diwethaf ac mae’r ymateb wych gan bartneriaid a gwirfoddolwyr wedi ein galluogi i ddosbarthu brechlynnau mor effeithiol. Mae pobl wir wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl i helpu a chefnogi’r ganolfan ac mae’n teimlo fel diwedd cyfnod wrth i ni symud i hen Ysgol Trewen yng Nghwm Cou.

“Os mai Aberteifi oedd eich canolfan brechu torfol leol, fe'ch gwahoddir i dderbyn eich ail ddos yn Ysgol Trewen os ydych yn disgwyl eich ail frechlyn ar ddydd Gwener 6 Awst neu ar ôl hynny.

“Rydym yn deall y bydd yn bellach i rai pobl deithio, ond mae’n hollbwysig, gyda’r cynnydd diweddar mewn achosion, fod pobl yn cael eu hail ddos o’r brechlyn pan fyddent yn cael gwahoddiad.

“Os bydd rhywun wirioneddol ddim yn gallu mynychu’r apwyntiad hwnnw yn ein lleoliad newydd, mae gan y Bwrdd Iechyd system gludiant mewn lle, gellir trefnu hyn gan ein Canolfan Reoli trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy ebostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu parhau i gefnogi BIP Hywel Dda wrth ddosbarthu’r brechlyn. Bydd ail-leoli’r ganolfan frechu i hen Ysgol Trewen yn sicrhau bod canolfan frechu gennym i drigolion de’r sir.”

“Mae dosbarthu’r brechlyn wedi bod  yn llwyddiannus yng Ngheredigion ac mae’n holl bwysig ein bod ni i gyd yn derbyn cynnig i gael y brechlyn COVID-19 a sicrhau ein bod wedi cael dau ddos er mwyn i ni barhau i warchod  ein anwyliaid a’n cymunedau.”

Sylwch nad yw'r brechlyn Pfizer BioNTech ar gael ar hyn o bryd yng nghanolfan brechu torfol Ysgol Trewen. Os ydych chi o dan 18 oed ac yn gymwys i gael brechlyn COVID-19, cysylltwch â thîm archebu'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad trwy ffonio 0300 303 8322 neu e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk