Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrgell Apiau Iechyd a Gofal - eich helpu i reoli eich iechyd a'ch llesiant gartref

23 Tachwedd 2022

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwn ni i gyd gymryd camau i gefnogi ein hiechyd a’n llesiant ein hunain, ac yn aml mae apiau digidol ar gael i helpu i reoli cyflyrau iechyd neu i gadw ein hiechyd cyffredinol ar y trywydd iawn. Fodd bynnag, gyda chymaint o apiau ar gael, gall dod o hyd i un sy'n addas i chi fod yn her weithiau.

Er mwyn helpu i lywio’r apiau sydd ar gael, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gydag ORCHA (y Sefydliad ar gyfer Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd) a dyma’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio Llyfrgell Apiau Iechyd a Gofal sy’n cynnwys cannoedd o raglenni sy’n cael eu hadolygu’n annibynnol.

Fel yr esbonia Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gyda dros 375,000 o apiau iechyd ar gael ar draws y siopau apiau amrywiol - yn cwmpasu popeth o ryseitiau bwyta'n iach i apiau loncian, a rhai sy'n monitro rhythmau'r galon neu'n darparu cymorth iechyd meddwl, gall dewis pa rai sy'n ddibynadwy ac effeithiol fod yn anodd weithiau.

“Fel bwrdd iechyd, rydym wedi partneru ag ORCHA i ddatblygu llyfrgell o apiau iechyd a gofal sydd wedi cael adolygiad annibynnol. Mae tîm ORCHA, sy'n cynnwys clinigwyr sy'n ymarfer yn weithredol, yn achredu apiau iechyd yn erbyn nifer o feini prawf llym mewn meysydd fel sicrwydd clinigol/proffesiynol, data a phreifatrwydd, defnyddioldeb a hygyrchedd; gan roi sgôr ganrannol hawdd ei deall i bob ap a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych am ei lawrlwytho ai peidio.”

Ychwanegodd Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a CCIO Hywel Dda: “Nid yn unig y mae’r llyfrgell yn ddefnyddiol i gleifion ar draws ein cymunedau o ran cyfeirio pobl at yr apiau gorau i gefnogi eu hiechyd a’u lles, mae hefyd yn adnodd ar gyfer ein meddygon – sy’n golygu bod gan ein timau’r gallu i argymell apiau yn ystod ymgynghoriadau, a rhannu argymhellion gyda chleifion.

“Mae ein tîm yn Hywel Dda wedi gweithio gydag ORCHA i sicrhau bod y llyfrgell yn bodloni pedair egwyddor allweddol ein strategaeth glinigol o fod yn ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig. Yn ddiogel yn yr ystyr bod yr apiau wedi'u profi ac yn cydymffurfio â'r safonau data angenrheidiol; cynaliadwy gan fod yna fecanweithiau i sicrhau bod pob ap yn cael ei ddiweddaru gan helpu i leihau'r risg o ymosodiadau seiber; hygyrch gan fod apiau yn rhad ac am ddim, ac yn ystyried lythrennedd digidol; a charedig wrth iddynt ein cefnogi i rymuso ein cleifion i reoli eu hiechyd eu hunain.”

Ychwanegodd Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o lansio’r llyfrgell ddigidol newydd hon fel haen ychwanegol o gymorth i’n cleifion. Nid yw hyn yn cymryd lle unrhyw un o’n gwasanaethau ond fe’i bwriedir i’w hategu, a gall ein helpu nid yn unig i drin salwch, ond hefyd i hybu llesiant.”

Mae’r Llyfrgell Apiau Iechyd a Gofal newydd ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn https://biphdd.gig.cymru/digidol/llyfrgellapiau (agor yn ddolen newydd). Os oes gennych unrhyw adborth ar yr apiau neu'r llyfrgell, defnyddiwch y ffurflen adborth sydd ar gael ar wefan y llyfrgell a rhannwch eich barn.