Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth treial clinigol y glun a phen-glin wedi'i galluogi gan robot yn Hywel Dda

Group of nurses standing alongside the robot

14 Chwefror 2023

O fis Chwefror 2023, bydd sgiliau llawfeddygol o’r radd flaenaf a arweinir gan lawfeddygon yn cael eu rhoi ar brawf fel treial ymchwil i’w defnyddio mewn llawdriniaeth i osod clun a phen-glin newydd am y tro cyntaf yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ariennir y treial clinigol drwy’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a’i gyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Llawdriniaeth gosod cymal newydd yw un o'r llawdriniaethau mwyaf cyffredin a gyflawnir gan y GIG. Nod y treial yw penderfynu a yw defnyddio robotiaid yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.

Mewn llawdriniaeth robotig i osod clun a phen-glin newydd, mae braich robotig yn helpu i baratoi'r asgwrn a gosod y cydrannau i gynllun tri dimensiwn sydd wedi'i raglennu ymlaen llaw. Credir bod defnyddio robot i wneud y llawdriniaeth yn galluogi technegau llawfeddygol mwy manwl gywir a chyson, a allai helpu i leihau amrywiadau ac o bosibl atal canlyniadau a chymhlethdodau gwael a all fod angen llawdriniaeth ychwanegol.

Wedi’i gyflwyno ar y cyd rhwng Ysgol Feddygol Warwick ym Mhrifysgol Warwick, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Coventry a Swydd Warwick (UHCW), a’r Ysbyty Orthopedig Brenhinol (ROH) yn Birmingham, bydd y treial robotig yn cael ei brofi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o ddechrau 2023.

Meddai’r Athro Peter Cnudde, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol: “Mae llawdriniaeth â chymorth robot yn cael ei defnyddio’n llwyddiannus iawn mewn llawer o driniaethau a gall ddod â nifer o fanteision o’i gymharu â llawdriniaeth safonol. Mae’n gyflawniad mawr i’r tîm fod ar flaen y gad mewn astudiaeth aml-ganolfan o’r radd flaenaf fel hon, ac rydym yn falch iawn o allu cychwyn y treial clinigol.

“Rwy’n credu y bydd ychwanegu llawfeddygaeth â chymorth robot at y ddarpariaeth lawfeddygol sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o fudd gwirioneddol i’n cleifion, ac edrychaf ymlaen at arwain y darn pwysig hwn o waith.”

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a’r Sefydliad Tritech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch bod ein llawfeddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwarae rhan flaenllaw yn y treial clinigol hwn. Gobeithiwn y bydd y rhaglen yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion ac yn mynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â phwysau yn ein system a’n rhestrau aros am ofal wedi’i gynllunio. Heb os, bydd canfyddiadau’r ymchwil yn helpu llawfeddygon orthopedig ar draws ein bwrdd iechyd a ledled y byd i ddeall yr offer a’r dechnoleg fwyaf effeithiol ar gyfer perfformio llawdriniaeth i osod clun a phen-glin newydd a darparu gofal rhagorol i gleifion.”

Yn ogystal â chofnodi canlyniadau clinigol, bydd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys dadansoddiad economaidd iechyd manwl i hysbysu'r GIG os dylid mabwysiadu'r elfen hon o dechnoleg â chymorth robot yn eang.

Ychwanegodd yr Athro Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymfalchïo mewn galluogi ein staff i ymgymryd ag ymchwil a datblygu sydd nid yn unig yn diwallu anghenion ein poblogaeth bresennol ond hefyd yn arwain y ffordd ar gyfer cleifion y dyfodol. Rydym yn croesawu’r bartneriaeth ag Ysgol Feddygol Warwick ym Mhrifysgol Warwick, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Coventry a Swydd Warwick (UHCW), a’r Ysbyty Orthopedig Brenhinol (ROH) yn Birmingham a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal ac edrychwn ymlaen at ddylanwadu arloesi orthopedig yn y dyfodol trwy ein canfyddiadau.”

Mae’r prosiect yn un o nifer o brosiectau ymchwil a datblygu sy’n canolbwyntio ar y claf a arweinir gan is-adrannau Sefydliad TriTech ac Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda..

Yn y llun (C-Dd): Uwch Prif Nyrs Jeremy Thomas, Prif Nyrs Iau Anthony Macabitis, Prif Nyrs Lorna Amarillo, Prif Nyrs Iau Charlie Ledbury, Prif Nyrs Iau Gary Peters a Nyrs Staff Glaiza Juanites.