Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Brys ac Argyfwng i Blant ac Ieuenctid (Pediatrig)

26 Mai 2023

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Brys ac Argyfwng i Blant ac Ieuenctid (Pediatrig) yn Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd, staff a sefydliadau partner, i rannu eu barn am wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatrig) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Rydym yn ceisio eich barn ar y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hyn yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro a wnaed ers 2016. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Mae Maria Battle, Cadeirydd BIPHDd, yn esbonio: “Yn dilyn y newidiadau dros dro i wasanaethau pediatrig a wnaed ers 2016, mae angen i ni nawr roi ateb tymor hwy ar waith a fydd yn ei le hyd nes y bydd yr ysbyty newydd arfaethedig ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn cael ei ddatblygu. Rydym wedi gweithio gyda’n timau clinigol a phediatrig i nodi’r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau yn y dyfodol ac mae gennym dri opsiwn yr hoffem gael eich barn arnynt. Ar hyn o bryd, nid oes gennym opsiwn a ffafrir o ran sut y bydd gwasanaethau pediatrig brys ac argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu.”

Ychwanegodd yr Athro Phil Kloer - Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr: “Ar gyfer y tri opsiwn, mae'n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal argyfwng plant yn cael ei gadw yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau plant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Hefyd, mae systemau eisoes ar waith i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflyrau critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael, a hynny yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o'r gwasanaeth newydd.

“Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, bydd y Bwrdd yn ystyried eich holl adborth yng nghyfarfod y Bwrdd tua diwedd 2023 ochr yn ochr â’r holl dystiolaeth arall a gwybodaeth berthnasol a gasglwyd yn ystod y broses hyd yma.”

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio BIPHDd: “Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio adborth gan bawb yn ein cymunedau – yn enwedig defnyddwyr ein gwasanaethau pediatrig nawr ac yn y dyfodol. Dyma gyfle i chi gymryd rhan a rhannu eich barn am y tri opsiwn rydym yn eu hystyried.

“Bydd eich barn, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu BIPHDd i ddewis yr opsiwn mwyaf priodol ar gyfer dyfodol gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Edrychwn ymlaen at gyfarfod ag aelodau o’n cymunedau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Bydd y digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal rhwng 1pm a 6pm ar:

  • 20 Mehefin, Clwb Athletic Caerfyrddin, Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, Caerfyrddin
  • 23 Mehefin, Canolfan Phoenix, Wdig, Abergwaun 27 Mehefin, Canolfan Hamdden Aberteifi, Ffordd Coleg Addysg Bellach Aberteifi
  • 29 Mehefin, Clwb Cymdeithasol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau
  • 3 Gorffennaf, Clwb Rygbi Hwlffordd

Yn ogystal â’r digwyddiadau galw heibio, mae tair sesiwn ar-lein wedi’u trefnu ar gyfer:

  • 19 Mehefin, 10am
  • 22 Mehefin, 6.30pm
  • 26 Mehefin, 1pm

Bydd manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y sesiynau ar-lein, copïau o’r dogfennau ymgynghori mewn amrywiaeth o fformatau, a manylion am sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y bwrdd iechyd o 26 Mai: Gwasanaethau plant yn y dyfodol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (agor mewn dolen newydd)