Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Gwasanaeth Mamau yn Bwysig / Mums Matter ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Mae Mind Sir Benfro yn falch o gyflwyno Mamau yn Bwysig / Mums Matter, gwasanaeth i famau newydd sy'n cael trafferth gyda materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol yn ystod y cyfnod amenedigol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gwasanaeth ymyrraeth gynnar yw Mamau yn Bwysig / Mums Matter, sy'n cynnig amgylchedd ddiogel, gefnogol i gwrdd â mamau eraill sydd â phrofiadau tebyg. Mae'n rhoi cyfle i drafod materion ac yn cynnig syniadau defnyddiol y gallant eu defnyddio i helpu i deimlo'n well. Mae annog cefnogaeth barhaus gan gymheiriaid hefyd wedi'i ymgorffori yn y cwrs. Mae'r cwrs wyth wythnos hefyd yn cynnwys un sesiwn ar gyfer partneriaid neu aelodau o’r teulu.

Mae'r cyfnod amenedigol yn cyfeirio at unrhyw amser o feichiogi hyd at flwyddyn ar ôl i chi roi genedigaeth. Felly, mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer mamau beichiog a'r rhai sydd â babanod a phlant bach.

Dywed Kalindi Black, Cydlynydd Rhanbarthol Mamau, “Mae Mamau yn Bwysig / Mums Matter yn wasanaeth a ddyluniwyd gan famau, ar gyfer mamau. Yn cyd-fynd ag Wythnos Iechyd Meddwl Mamau, rydym yn cynnig cyrsiau ar-lein gan ddechrau o'r 6ed o Fai. Unwaith y bydd cyfyngiadau yn parhau i leddfu, gobeithiwn allu dod â'r gwasanaeth hwn wyneb yn wyneb ar draws y tair sir.

“Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i dreialu mewn rhannau eraill o’r DU a Chymru, gyda rhai rhieni’n dweud ei fod wedi newid eu bywydau. Rydym yn falch o allu lansio’r gwasanaeth ar gyfer mamau ledled gorllewin Cymru.”

Gallwch gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn trwy weithwyr iechyd proffesiynol, neu os oes gennych ddiddordeb gallwch hunangyfeirio. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â mums@mindpembrokeshire.org.uk neu ffoniwch 07949 531305.