Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Canolfan Ymchwil Glinigol Ysbyty Glangwili

Mae canolfan ymchwil glinigol newydd sbon wedi agor yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, gan roi cyfle i fanteisio ar gyfleoedd ymchwil newydd i gleifion yng ngorllewin Cymru.

Bydd yr ardal bwrpasol newydd hon yn lleihau’r pwysau ar adrannau eraill yn yr ysbyty ac yn gwneud Sir Gaerfyrddin yn safle mwy deniadol i gynnal ymchwil a allai, o bosibl, newid bywydau. Bydd y ganolfan hon yn cynnig cyfle i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol sy’n cynnig cyfle i fanteisio’n gynharach ar y triniaethau a therapïau diweddaraf.

Mae’r buddsoddiad o £250,000 wedi arwain at ddatblygu ystafelloedd clinigol pwrpasol i drin a monitro cleifion a labordy amlddefnydd gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i alluogi prosesu samplau yn annibynnol o adrannau prysur eraill.

Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore, a’r Cadeirydd, Maria Battle, a agorodd y ganolfan ymchwil, ac ymunodd y tîm ymchwil â nhw.

Dywedodd Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein hymdrechion ymchwil wedi canolbwyntio’n briodol ar yr astudiaethau iechyd cyhoeddus brys sy’n datblygu triniaethau ar gyfer COVID-19 a’i effeithiau. Bydd y ganolfan ymchwil glinigol newydd hon yn ein galluogi i barhau â’n hymchwil i feysydd allweddol fel orthopedeg, oncoleg a ffrwythlondeb.

“Rydym ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth a’r buddsoddiad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r bwrdd iechyd i ddatblygu ymchwil a’i diogelu ar gyfer y dyfodol yng Nghymru ac mae’r tîm wedi mynd y tu hwnt i gefnogi ein twf yn y maes hwn.

"Mae ymchwil yn elfen arall o ofal cleifion ac rydym yn gweld rhai pobl bob mis am 10 mlynedd felly mae bod â lle newydd i gynnal yr ymchwil hwnnw yn bwysig iawn gan y gallai’r ymchwil hon wella, neu hyd yn oed achub, nid yn unig eu bywydau nhw ond bywydau pobl yn y dyfodol."

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Nicola Williams: "Mae gennym ni nifer o ganolfannau ymchwil clinigol ledled Cymru sy’n golygu ein bod ni’n gallu darparu cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl Cymru gymryd rhan mewn ymchwil yn eu hardal leol. Mae bod â lle pwrpasol ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn golygu y gallwn ni gynnig mwy o gyfleoedd ymchwil i fwy o bobl, heb effeithio ar wasanaethau clinigol eraill".