Neidio i'r prif gynnwy

Lansio adnoddau yn ôl i Fywyd Cymunedol i helpu pobl ar ôl COVID-19

Gwelliant Cymru, Yn ôl fywyd cymunedol

Mae Gwelliant Cymru, sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn lansio'r prosiect Yn ôl i Fywyd Cymunedol yr wythnos hon.  Mae'n cefnogi pobl sydd wedi bod yn ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi ers i reolau’r cyfyngiadau symud ddechrau cael eu llacio.  Mae'r rhain yn cynnwys pobl â dementia, pobl oedd gynt yn cysgodi, neu bobl sy'n agored i niwed.

Dechreuwyd y fenter yn Aberpennar ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â phobl leol, yr heddlu, asiantaeth wirfoddoli leol, trafnidiaeth leol, yr awdurdod lleol, y trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol, siopau a busnesau, sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r deunyddiau ac i nodi’r rhai sydd angen help. 

Mae partneriaid Yn ôl i Fywyd Cymunedol wedi darparu gwybodaeth i siopau ac amwynderau lleol i'w helpu i gefnogi'r heriau y gallai pobl eu hwynebu wrth iddynt fynd o gwmpas eu pethau.

Bydd yr adnoddau ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ yn cael eu rhannu â chymunedau ledled Cymru er mwyn iddynt gydlynu eu prosiectau eu hunain.  Ymhlith yr adnoddau mae canllawiau ar sut i baratoi, ymarfer sgiliau a theimlo’n hyderus i adael y tŷ, a’r hyn y dylid ei ddisgwyl o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed mewn siopau a chyfleusterau lleol yn ystod y pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am ‘fannau diogel’ a chiwio â blaenoriaeth. 

Gallwch weld a rhannu'r deunyddiau yma ImprovementCymru.net/BywydCymunedol