Hywel Dda yn ennill gwobr genedlaethol am ofal anabledd dysgu

13 Tachwedd 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau GIG Cymru 2026, gyda thîm yn cael ei gydnabod am wella gofal i bobl ag anableddau dysgu ledled gorllewin Cymru.  

Mae'r wobr yn cydnabod menter sy'n helpu i adnabod cleifion ag anableddau dysgu yn gynnar yn eu taith ysbyty, gan alluogi cymorth priodol ac addasiadau rhesymol. Derbyniodd tîm y prosiect Wobr Gofal Amserol Gwobrau GIG Cymru mewn digwyddiad dathlu yng Nghaerdydd ar 12 Tachwedd 2026. 

Gan ddefnyddio system 'Purple Dot' GIG Cymru, mae'r prosiect gwella ansawdd hwn yn codi ymwybyddiaeth staff, yn safoni terminoleg, yn gwella prosesau atgyfeirio ac yn hyrwyddo'r defnydd o addasiadau rhesymol. Mae'n galluogi timau gofal iechyd i ddarparu gofal wedi'i bersonoli, gwella cyfathrebu, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a gwella diogelwch a phrofiad cleifion. 

Mae'r prosiect hefyd wedi cryfhau gwybodaeth ac ymgysylltiad staff, gan helpu i greu dull mwy cynhwysol a pherson-ganolog o ofal ar draws y sefydliad. 

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr: "Rydym yn hynod falch o weld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Gall pobl ag anableddau dysgu wynebu rhwystrau i ofal iechyd ac mae'r prosiect hwn yn dangos ein hymrwymiad i leihau anghydraddoldebau a darparu cymorth personol trwy waith caled aelodau ein tîm.

"Trwy wella adnabod yn gynnar a hyrwyddo addasiadau rhesymol, mae ein timau'n helpu i greu gofal mwy diogel, mwy cynhwysol a thosturiol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r gwaith wedi cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion pobl ag anableddau dysgu ymhlith timau ar draws y bwrdd iechyd. 

"Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymroddiad a chydweithrediad cydweithwyr ar draws Hywel Dda sy'n gweithio bob dydd i wella gofal a chanlyniadau i'n cleifion." 

Wedi'u cynnal gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru, mae Gwobrau GIG Cymru (agor mewn dolen newydd) yn arddangos prosiectau sy'n gwella ansawdd, diogelwch a pherfformiad ledled Cymru. 

Dathlodd cynrychiolwyr o bob rhan o GIG Cymru ragoriaeth, cyfnewid syniadau a thynnu sylw at sut y gall arloesiadau llwyddiannus fod o fudd i bobl a gwasanaethau ledled Cymru. 

Clywodd gwesteion hefyd gan ystod o uwch arweinwyr gan gynnwys: 

  • Mabon ap Gwynfor, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru 
  • Yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru 
  • Y Fonesig Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru 

Mae Gwobrau GIG Cymru yn parhau i dynnu sylw at y gwaith eithriadol sy'n digwydd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal, ac yn dathlu arloesedd, cydweithio a gwelliant parhaus. 

Dysgwch ragor am Wobrau GIG Cymru a gweld y rhestr lawn o enillwyr yn gwobraugig.cymru (agor mewn dolen newydd)