Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn ennill gwobr am wella gwasanaethau canser

18 Mehefin 2026

Mae tîm amlddisgyblaethol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cipio gwobr yng Ngwobrau Canser cenedlaethol Moondance eleni. Maent wedi cael eu cydnabod am eu gwaith arloesol sydd wedi arwain at wella gwasanaethau canser gynaecolegol yng ngorllewin Cymru.

Mae Gwobrau Canser Moondance, sydd wedi'u neilltuo'n gyfan gwbl i wasanaethau canser yng Nghymru, yn taflu goleuni ar unigolion a thimau sy'n arwain y ffordd o ran darparu, datblygu a thrawsnewid gwasanaethau canser i gleifion.

Cipiodd tîm Hywel Dda y wobr am Ganfod a Diagnosis yn y categori Arloesi a Gwella am eu Clinig Un Stop ar gyfer Gwaedu Ôl-Menopos. Mae'r fenter wedi'i chynllunio i fynd i'r afael ag oedi sylweddol yn y llwybr brys ar gyfer canser a amheuir.

Gan gydnabod y cyfle i wella, ailgynlluniodd y tîm y llwybr gwasanaeth, gan adleoli gwasanaethau uwchsain o Radioleg i'r Adran Gynaecoleg. Galluogodd y newid hwn gleifion i dderbyn uwchsain, asesiad clinigol a hysterosgopi mewn un ymweliad.

Cafodd y model hwn, a dreialwyd yn wreiddiol yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn 2024, ei ehangu ar draws safleoedd ysbytai eraill yn 2025. Mae'r fenter wedi gweld amseroedd aros cyfartalog yn lleihau o 178 diwrnod i 29 diwrnod.

Wrth wneud sylwadau ar y fuddugoliaeth, dywedodd Islam Abdelrahman, Gynaecolegydd Ymgynghorol yn Hywel Dda: “Mae'n gyffrous i'r tîm cyfan ennill y wobr. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth ostwng pa mor hir y mae angen i'n cleifion aros am driniaeth.

“Cyn hyn, byddai cleifion yn aros pythefnos i bedair wythnos am sgan ac yna'r un peth am hysterosgopi ond nawr gall pobl gael eu rhyddhau'n llawer cyflymach - 50 y cant ar yr un diwrnod. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i daith y claf.

“Gallwn nawr gynnig y model ledled Cymru. Y cam nesaf fydd gwneud yr un peth ar gyfer canser yr ofari.”

Dywedodd Lauren Davies, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Dros Dro: “Mae’r wobr hon ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r broses un stop - o’r grŵp tasg a gorffen cychwynnol i’r clinigwyr a’r nyrsys sy’n darparu gofal, a’r timau gweinyddol sy’n cefnogi rhedeg y clinigau o ddydd i ddydd.

“Mae’r gwaith hwn yn arwain y ffordd wrth drin canserau gynaecolegol, gan wella’r profiad yn sylweddol i fenywod sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Dylai’r tîm fod yn falch iawn o’r cyflawniad hwn.”

Dywedodd Wendy Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Canser Moondance: “Mae Gwobrau Canser Moondance yn dathlu’r unigolion, y timau a’r cydweithrediadau sy’n gyrru newid ar draws gwasanaethau canser yng Nghymru. Mae enillwyr eleni yn dangos effaith ffocws, creadigrwydd, cydweithio ac uchelgais a rennir wrth wella canlyniadau a phrofiadau i gleifion.

“Mae’n fraint i Fenter Canser Moondance weithio ochr yn ochr â chydweithwyr a phartneriaid y GIG i gefnogi cynnydd i gleifion. Edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith hwnnw, gan adeiladu ar y syniadau, y perthnasoedd a’r momentwm a adlewyrchir yng ngwobrau eleni.”

DIWEDD