Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn cyhoeddi'r camau nesaf ar gyfer yr Ymgynghoriad ar Safleoedd Ysbyty Newydd

Graphic a female healthcare worker standing next to a sign

08 Medi 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn yr adroddiad annibynnol terfynol gan Opinion Research Services (ORS) yn dilyn diwedd ei ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y safleoedd posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn ne rhanbarth Hywel Dda.

Roedd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 23 Chwefror a 19 Mai 2023, yn gwahodd y cyhoedd, staff byrddau iechyd, sefydliadau partner, a’r gymuned ehangach i rannu eu barn. Ystyriodd yr ymatebwyr dri opsiwn safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd arfaethedig; dau wedi'u lleoli ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.

Y llynedd, cyflwynodd y bwrdd iechyd gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3biliwn mewn iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn ein hymgynghoriad â chymunedau a staff yn 2018, datblygwyd ein gweledigaeth i ddod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi pobl.

“Gyda chynlluniau ar gyfer cyfres o ganolfannau iechyd a gofal integredig ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro, bydd yr ysbyty newydd hwn yn rhan ganolog o wella gwasanaethau gofal arbenigol yn Hywel Dda a bydd yn darparu model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bwriad y dull hwn yw mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog gan gynnwys adeiladau ysbyty sy’n heneiddio, cynnal rotâu clinigol ar draws sawl safle, a heriau o ran recriwtio a chadw staff.”

Comisiynwyd Opinion Research Services (ORS) i gynghori, coladu a rheoli’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn annibynnol. Mae eu hadroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad bellach ar gael i’w adolygu ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/ Mae'r broses ymgynghori ar gyfer dewis safle ar gyfer yr ysbyty newydd wedi ennill Sicrwydd Ansawdd Arfer Gorau gan y Sefydliad Ymgynghori.

Fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol, gofynnwyd i nifer o grwpiau rhanddeiliaid byrddau iechyd ystyried adroddiad ORS yn gydwybodol. Wrth wneud hynny, gofynnwyd iddynt a oedd unrhyw fesurau lliniaru pellach y dylai’r bwrdd iechyd fod yn eu hystyried, a oedd yr adroddiad wedi nodi’r holl faterion cydraddoldeb, ac unrhyw bwyntiau terfynol nad oedd wedi’u nodi eisoes.

Bydd adroddiad terfynol ORS, ynghyd ag allbwn y broses ystyriaeth gydwybodol, a'r adroddiadau technegol a masnachol, yn cael eu hystyried mewn cyfarfod arbennig o'r Bwrdd am 10:30am ar 14 Medi. Yn ystod y cyfarfod, gofynnir i aelodau’r Bwrdd ystyried canfyddiadau allweddol adroddiad ORS, yn dilyn y cyfnod o ystyriaeth gydwybodol, ynghyd â’r adroddiadau technegol, masnachol a chyllid. Gofynnir i'r Bwrdd hefyd ystyried lleihau'r rhestr fer o safleoedd ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd o dri safle i ddau, a phenderfynu ar y ddau safle i symud ymlaen â nhw.

Mae cyfarfod arbennig y bwrdd ar gael i’r cyhoedd ei weld, mae manylion sut i wneud hynny ar gael ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/  Mae papurau'r Bwrdd a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod, a fydd yn cynnwys gwybodaeth dechnegol bellach yn ymwneud â'r tri safle, hefyd ar gael ar yr un ddolen.

Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i’r gymuned, staff, sefydliadau partner a phawb a roddodd o’u hamser i gwrdd â nhw a rhannu eu barn yn ystod y broses ymgynghori hon. Mae'r Bwrdd yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn y broses ymgynghori wrth iddo ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd.

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i wefan y bwrdd iechyd: Safle Ysbyty Newydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)