Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda i ddadorchuddio byrddau iaith a lleferydd newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol

30 Gorffennaf 2022

Bydd therapyddion iaith a lleferydd balch iawn o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dadorchuddio pedwar bwrdd cyfathrebu pwrpasol newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr wythnos hon, mewn partneriaeth newydd a chyffrous.

 

Mae'r byrddau cyfathrebu yn cynnwys detholiad o eiriau sy'n ymwneud â'r Eisteddfod, sydd wedi'u paru â symbolau cysylltiedig.

 

Yn dilyn llwyddiant y byrddau mewn meysydd chwarae ar draws Ceredigion, mae tîm Hywel Dda wedi gweithio gyda grŵp o oedolion ag Anableddau Dysgu o fewn rhanbarth y bwrdd iechyd i nodi’r geiriau y teimlent fyddai’n ddefnyddiol. Mae'r geiriau hyn yn adlewyrchu anghenion cyfathrebu penodol ar gyfer yr Eisteddfod gan gynnwys lleoedd a gweithgareddau allweddol. Bydd y byrddau hyn yn addas ar gyfer unrhyw un ag anhawster cyfathrebu gan gynnwys plant ac oedolion. Byddant hefyd o fudd i unrhyw un sydd am ddysgu rhai geiriau Cymraeg tra ar y maes.

 

Yn ogystal â’r pedwar bwrdd a fydd yn cael eu harddangos ar draws y Maes, mae’r tîm hefyd wedi creu PDF a fydd yn cael ei ymgorffori o fewn Ap yr Eisteddfod. Ein gobaith yw y gellir ehangu’r prosiect cyffrous hwn dros y blynyddoedd nesaf i gynnwys adnoddau gweledol pellach ac arwyddion defnyddiol i gefnogi cynhwysiant a chodi ymwybyddiaeth o anabledd cudd.

 

Fis diwethaf ymwelodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ag Aberystwyth i weld Byrddau Cyfathrebu’r sir, y cyntaf o’i fath i’w lansio yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a chyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

Ac ym mis Rhagfyr 2021, derbyniodd Libby Jeffries a Mererid Jones, Therapyddion Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol, wobr Rhoi Llais gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd am eu gwaith ar y byrddau, sy’n cydnabod sut mae therapi iaith a lleferydd yn trawsnewid bywydau ac yn dathlu gweithgarwch a chyflawniadau arloesol a ddangosir gan therapyddion ledled y DU.

 

Dywedodd Mererid: “Rydym yn gyffrous iawn i allu gweithio gyda’r Eisteddfod ar y prosiect hwn, i greu’r Eisteddfod a’r ŵyl cyfeillgar i gyfathrebu gyntaf o’i bath. Rydym yn gobeithio dangos sut y gallai gwyliau wneud eu digwyddiadau yn fwy cyfeillgar i gyfathrebu er mwyn dod yn fwy cynhwysol.” 

                                 

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Mae'r Eisteddfod yn ymfalchïo ei bod yn ŵyl sydd yn cynnig croeso cynnes i bawb. Mae sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn ddigwyddiad hygyrch a chynhwysol yn hollbwysig i ni fel sefydliad, ac i'n hymwelwyr. Rydym yn falch iawn o weithio gyda thîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, er mwyn rhoi llwyfan i'r byrddau cyfathrebu ar y Maes a'n Ap, a dod â mwy o gynhwysiant i'r Eisteddfod eleni." 

 

I gael y newyddion diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd a Maes yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac Instagram @bihywelddahb neu ddilyn y sgwrs yn #HywelArYMaes a #IechydDaHywelDda.