Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda ar fin uwchraddio cyfleusterau Pelydr-X Glangwili

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

5 Medi 2022

Mae staff a chleifion ar fin cael hwb gyda’r newyddion am uwchraddio cyfleusterau pelydr-X Glangwili. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ffodus i gael arian gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o gynllun adnewyddu offer delweddu ar draws y bwrdd iechyd, a fydd yn caniatau adeiladu ystafell pelydr-x newydd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Bydd y datblygiad newydd yn golygu y bydd un o’r ddwy ystafell pelydr-x bresennol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cael ei hadnewyddu gydag ystafell pelydr-x digidol uwchraddol newydd a fydd yn hwyluso safonau diagnosis a’n rhoi lluniau o sylfaen uwch.

Yn dilyn methiannau niferus o’r ystafell pelydr-X bresennol, croesewir yr offer newydd hwn a bydd yn helpu i wella capasiti pelydr-x yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Bydd yr offer newydd yn cynhyrchu ansawdd delwedd uwch o belydrau-x ac ar yr un pryd dosau ymbelydredd is. Bydd yr adnewyddiad hefyd yn golygu amgylchedd newydd a gwell i gleifion, yn enwedig ein cleifion pediatrig.

Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd o 5 Medi tan 11 Tachwedd, yn ystod y cyfnod hwn bydd Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn gweithredu gydag un ystafell pelydr-x yn unig a gall hyn olygu rhywfaint o oedi i gleifion allanol. Bydd oedi yn cael ei liniaru trwy’r defnydd o ystafell pelydr-x dros dro y gellir ei defnyddio ar gyfer rhai arholiadau.

Bydd cleifion ag apwyntiadau ar gyfer pelydr-x yn cael cynnig apwyntiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau a bydd rhai yn cael cynnig slotiau ar safleoedd byrddau iechyd eraill i gadw momentwm ar leihau amseroedd aros. Bydd y tîm yn Glangwili yn sicrhau y bydd cleifion brys yn cael eu gweld gyda chyn lleied o oedi â phosibl ac na ddisgwylir i apwyntiadau CT, MRI, Uwchsain a Fflworosgopi gael eu heffeithio.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o fudd mawr i’n cleifion. Mae’r tîm yng Nglangwili wedi ymrwymo i ddatblygiad parhaus y gwasanaethau rydym yn eu cynnig fel bwrdd iechyd a bydd yr offer newydd o fudd i’n cleifion. Rydym yn edrych ymlaen at weld y tri safle acíwt arall yn cael eu hystafelloedd pelydr-x newydd o fewn y flwyddyn ariannol hon.”