Neidio i'r prif gynnwy

Holi eich barn ar gais i gau Meddygfa Cangen Talacharn

31 Hydref 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.

Dyma’r prif resymau dros y cais:

  • Mae'r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
  • Er mwyn diogelu'r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid o Feddygon Teulu Meddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Feddygfa i’r dyfodol.
  • Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

Mae Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn esbonio’r broses: “Unwaith y bydd cais i gau meddygfa gangen yn dod i law, mae’r Bwrdd Iechyd yn dechrau ei Broses Adolygu Practis Cangen, a reolir yn annibynnol ar Feddygfa Coach and Horses.

“Mae’r broses sy’n nodi sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i gael ac adolygu’r cais i gau. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chleifion a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cael eu barn, sy’n cynnwys ymgysylltu â Llais, y corff statudol yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd.

“Unwaith y bydd yr holl brosesau hyn wedi'u cwblhau, rydym yn dechrau ar gyfnod o ystyriaeth gydwybodol o'r adborth a gawsom. Gwneir hyn i gyd yn annibynnol ar y Feddygfa, er ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac yn cynnwys eu cynrychiolydd yn ein cyfarfodydd.

“Yn olaf, mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried pan fydd y Bwrdd yn cyfarfod yn gyhoeddus i ystyried penderfyniad terfynol ar y cais.”

Cynhelir y cyfnod ymgysylltu hwn rhwng 1 a 30 Tachwedd 2023. Gall cleifion ac aelodau o'r gymuned ehangach ddweud eu dweud mewn amryw ffyrdd:  

  • Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, unrhyw bryd rhwng 2pm tan 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG
  • Llenwi holiadur: mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ym Meddygfa Talacharn a Meddygfa Coach and Horses. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd drwy eu postio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD.
  • Dros y ffôn: 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer gwasanaethau eraill.
  • Mewn e-bost: ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Yn ysgrifenedig: sylwadau i'w cyfeirio at Tracey Huggins, Pennaeth Tîm Gofal Sylfaenol GMS, Canolfan Adnoddau Cymunedol Felin-foel, Felin-foel, Llanelli, SA14 8BE.
  • Ar-lein: ymateb i holiadur ar dudalen Dweud Eich Dweud / Have Your Say https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/meddygfa-cangen-talacharn-dyfodol-gwasanaethau-i-gleifion-cofrestredig
  • Rhoi adborth yn uniongyrchol i Llais, Swît 5, Llawr 1af, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin SA31 1LP.