Neidio i'r prif gynnwy

Herio'r storm gyda'i gilydd

Mae arweinydd lleol y GIG yn cydnabod yr aberthau personol y mae pobl wedi’u gwneud i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn apelio i'r cyhoedd am gefnogaeth yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

Er bod y cysylltiad rhwng heintiau coronafirws a salwch difrifol yn gwanhau, mae nifer yr achosion COVID-19 (yn agor mewn tab newydd) yn lleol yn cynyddu ac yn parhau i gael effaith ar wasanaethau cyhoeddus ar draws ardal Hywel Dda.

Mae Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn tab newydd), yn disgrifio sut mae eich GIG lleol yn rheoli ac yn ymateb i’r pandemig ar hyn o bryd, gan alw ar bawb i wneud yr hyn a allwn i helpu i leihau lledaeniad pellach y firws a lleddfu peth o’r pwysau ar wasanaethau lleol.

“Rydyn ni wedi gweld y tymor twristiaeth prysuraf erioed yng ngorllewin Cymru. Mewn sawl ffordd rydym wedi croesawu hyn ac mewn ffyrdd eraill mae wedi dod a’i heriau ei hun a galw cynyddol ar ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus.

“O’n cymharu â’r 18 mis diwethaf, efallai y cawn ein twyllo i feddwl ein bod yn ôl i'r arferol. Ond er bod effaith waethaf COVID-19 drosodd, gobeithio, nid ydym wedi cyrraedd y lan eto.

“Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, mae cyrff y sector cyhoeddus ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn parhau i weithio’n agos gyda’n gilydd mewn partneriaeth i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.

“Yma yn y bwrdd iechyd rydym wedi gwneud llawer o newidiadau. Yn eich holl ysbytai rydym yn parhau i fod ag ardaloedd gwyrdd, oren a choch pwrpasol i geisio lleihau lledaeniad COVID-19. Rydym wedi pellhau’n gymdeithasol, neu wedi sgrinio oddi ar welyau, i gadw cleifion yn fwy diogel. Mae staff clinigol yn dal i fod yn ‘gwisgo a diosg’, yn gwisgo dillad amddiffynnol personol ar gyfer triniaethau a gweithdrefnau, ac rydym yn glanhau amgylcheddau ychwanegol rhwng cleifion. Mae hyn i gyd yn cymryd llawer mwy o amser ac yn anffodus mae’n golygu na allwn drin cymaint o gleifion ag y gwnaethom cyn COVID-19. 

“Yn wyneb yr anhysbys, a chyn diogelwch cymharol y brechlyn, mae eich glanhawyr, meddygon, porthorion, nyrsys, rheolwyr, prentisiaid a llawer eraill, gan gynnwys cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus, wedi gwasanaethu mewn amgylchiadau heriol. Nid yw hyn wedi dod heb ofn ac aberthau personol. Nid yw ond yn naturiol bod llawer o staff bellach wedi blino’n lân. Yn ystod yr amser hwn, rydym hefyd wedi gweld lefel uwch o absenoldeb salwch nag arfer, sy’n cael ei gymhlethu gan nifer uchel o swyddi nyrsio gwag yn Hywel Dda. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein holl staff a recriwtio i swyddi gwag.

“Mae hyn hefyd wedi lleihau faint o bobl y gallwn ni ofalu amdanyn nhw o gymharu â chyn COVID-19.

“Cyn y pandemig, roeddem yn disgwyl i bawb yng ngorllewin Cymru cael eu llawdriniaeth arfaethedig o fewn 36 wythnos ar ôl cael eu cyfeirio. Ein gofid mwyaf yw bod 30,000 o gleifion bellach, o ganlyniad i’r pandemig, yn aros. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflymu llawfeddygaeth yn wyneb yr holl fesurau diogelwch sydd eu hangen a’n lefelau staffio. Rydym yn edrych ar adeiladu theatrau dros dro ychwanegol yn Ysbyty’r Tywysog Philip, yn Llanelli, i gynyddu ein gallu i gael llawdriniaeth wedi’i chynllunio. Rydym hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a’n staff yn Ysbyty Dyffryn Aman i gynyddu llawdriniaethau cataract.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd iawn aros heb wybodaeth pryd y byddwch chi’n cael eich llawdriniaeth. Ni allwn greu mwy o theatrau neu recriwtio mwy o staff yn gyflym. Yr hyn y gallwn ei wneud yw gwrando arnoch chi; dweud wrthych ble rydych chi ar y rhestr; eich cefnogi, a’ch cynghori sut y gallwch ofalu amdanoch eich hun, a ble i fynd os bydd eich cyflwr yn dirywio. Rydym yn gwneud hyn trwy wasanaeth Rhestr Aros, yr ydym yn ei gyflwyno i fwy o bobl a chysylltir â chi’n uniongyrchol am hyn maes o law os ydych chi’n aros am weithdrefn. Gallwch hefyd gael cyngor ar ein gwefan https://biphdd.gig.cymru/  trwy chwilio ‘paratoi ar gyfer triniaeth’.

“Roedd gweld sut y daeth ein cymunedau ynghyd i ofalu am ei gilydd yn ystod tonnau cyntaf ac ail don y pandemig yn ysbrydoledig ac yn galonogol. Sylweddolwyd hefyd nad ysbytai yw'r lle gorau na mwyaf diogel i gleifion penodol bob amser. Weithiau gallai ein hanwyliaid gael gofal mewn man arall mewn ffordd well. Mae hyn yn berthnasol heddiw.

“Mae ein cydweithwyr yng ngwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yma yng ngorllewin Cymru hefyd yn brin iawn o staff. Yn anffodus, gall hyn arwain at oedi wrth ryddhau claf a'r risgiau cysylltiedig o aros yn yr ysbyty am gyfnod rhy hir. Rydym yn gweld ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys gan nad oes digon o welyau ar gael i gleifion y mae angen eu derbyn ac nid ydym am i bobl yn ein cymunedau mewn sefyllfaoedd brys fod yn aros yn rhy hir am ambiwlans.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid awdurdod lleol i wneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu argaeledd gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi hyfforddiant i'n timau gofal cymdeithasol a chartref.

“Mae eich gwasanaethau gofal brys ac argyfwng wedi aros ar agor trwy gydol y pandemig ac maen nhw dal yma i chi pan fydd eu hangen arnoch chi. Fodd bynnag, nid ydym allan o'r pandemig hwn. Un o ganlyniadau hyn yw ein bod yn gorfod dod â mesurau dros dro yn ôl, gan gynnwys gohirio rhywfaint o lawdriniaeth yn y tymor byr, er mwyn sicrhau y gallwn ofalu am gleifion yn ddiogel.

“Ar hyn o bryd, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae gennym ni bron y storm berffaith. Ond rydyn ni wedi dod trwy lawer o stormydd gyda'n gilydd yn ystod oes y pandemig hwn a gyda'ch cefnogaeth chi fe gawn ni trwy'r un hon eto. "

Sut allwch chi helpu?

  • Ar gyfer gofal brys ac argyfwng yn unig, ffoniwch 999 – mae eich ysbytai yn parhau i weld cleifion sy'n cael argyfyngau meddygol. Mae mesurau yn eich ysbytai sydd wedi'u cynllunio i gadw cleifion mor ddiogel â phosibl ac anogir pobl i geisio sylw meddygol ar frys os bydd ei angen arnoch. Cofiwch - mae angen i chi wisgo mwgwd o hyd ac arsylwi ar bellter cymdeithasol ym mhob lleoliad gofal iechyd.
  • Os oes gennych angen nad yw'n fater brys, ceisiwch ddewisiadau amgen i adrannau damweiniau ac achosion brys fel ymweld â'r gwiriwr symptomau 111 https://111.wales.nhs.uk/ (yn agor mewn tab newydd) ymweld â'ch fferyllfa gymunedol leol neu ffoniwch eich meddygfa
  • Byddwch yn ysbryd cymunedol - Os oes gennych berthynas yn aros i gael ei rhyddhau o’r ysbyty, cefnogwch nhw ar eu taith adref a helpwch i'w setlo ar ôl iddynt gyrraedd. Cadwch olwg ar ffrindiau, teulu a chymdogion. 
  • Amddiffyn y GIG a Chadw Cymru’n Ddiogel. Trwy ddilyn arweiniad y llywodraeth gallwch chi helpu: ewch i https://gov.wales/coronavirus (yn agor mewn tab newydd)Gweld ein fideo ar ymddygiadau ‘cadw’n ddiogel’, sy’n cynnwys staff lleol o wasanaethau cyhoeddus: https://www.youtube.com/watch?v=8W4bBjpPYtw (yn agor mewn tab newydd)
  • Mae rhaid i unrhyw un sydd â symptomau COVID19, gan gynnwys symptomau annwyd neu debyg i ffliw, hunanynysu ac archebu prawf trwy: https://www.gov.uk/get-coronavirus-test (yn agor mewn tab newydd) neu trwy ffonio 119 cyn gynted â phosibl. Trwy wneud hyn, allwch chi helpu i leihau’r risg y bydd y firws yn lledaenu ymhellach ar draws ein cymunedau. 
  • Cael eich brechlyn – dyma'r ffordd orau i'ch amddiffyn chi ac eraill rhag COVID-19 https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/ (yn agor mewn tab newydd)
  • Cadwch yn ddiogel trwy leihau eich cysylltiadau cymdeithasol i'r eithaf; ymarfer pellter corfforol; golchi dwylo yn rheolaidd; gwisgo mwgwd wyneb lle bo angen; a dewis gweithgareddau awyr agored yn hytrach na dan do pan fo hynny'n bosibl

Parhaodd Maria: “Mae’r dyfodol yn dod a rhywfaint o ansicrwydd, fel cyflwyno’r brechlyn ffliw ochr yn ochr â phigiadau atgyfnerthu COVID-19. Yr hyn sy’n sicr fodd bynnag yw ymrwymiad y bwrdd iechyd a’n partneriaid i fod mor barod â phosibl. Mae cynllun adfer cynhwysfawr y bwrdd iechyd yn amlinellu, yn anad dim, sut rydym yn gwella o’r pandemig: sut rydym yn cefnogi ein staff i wella ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn a hanner flinedig, a sut rydym yn gosod y sylfeini i adfer ein gwasanaethau a chefnogi ein cymunedau.”Gyda’n gilydd gallwn gadw Hywel Dda’n ddiogel.