Neidio i'r prif gynnwy

Helpu cleifion i gadw'n heini a gwella'n gyflymach yn yr ysbyty

2 Gorffennaf, 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymhlith y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dull newydd o nodi ac atal dirywiad sy’n gysylltiedig ag ysbytai, gan ddefnyddio offeryn rhybuddio cynnar a gynlluniwyd i gefnogi cleifion i wella’n gyflymach a chynnal eu hannibyniaeth.

Mae’r Dangosydd Rhybudd Cynnar ar gyfer Datgyflyru (DEWI) yn helpu staff i adnabod arwyddion cynnar y gallai claf fod yn colli cryfder, symudedd neu hyder yn ystod arhosiad yn yr ysbyty. Mae hyn yn galluogi cymorth amserol i gadw pobl yn actif ac yn annibynnol drwy gydol eu gofal.

Y nod yw helpu pobl i adael yr ysbyty gyda’r un lefel o annibyniaeth ag oedd ganddyn nhw cyn cael eu derbyn, neu hyd yn oed ar y lefel oedd ganddyn nhw bythefnos cyn iddyn nhw fynd yn sâl. Mae’r offeryn yn defnyddio set strwythuredig o ddangosyddion i greu darlun o alluoedd pob claf ac yn nodi unrhyw newidiadau yn gynnar.

Wedi'i ddatblygu gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru, mae offeryn DEWI wedi'i brofi ar draws nifer o Fyrddau Iechyd yng Nghymru ac fe'i lansiwyd yn ffurfiol ym mis Tachwedd 2025. Mae bellach yn cael ei gyflwyno ar draws safleoedd ysbytai Hywel Dda.

Gall datgyflyru ddatblygu'n gyflym, hyd yn oed yn ystod arhosiad byr yn yr ysbyty.  Gall gael effaith sylweddol ar les corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rydym yn cydnabod y gall dad-gyflyru achosi niwed sylweddol i’n cleifion, gan ddatblygu’n gyflym yn aml a chael effaith ar annibyniaeth ac adferiad yn ystod arhosiad yn yr ysbyty.

“Mae’n galonogol iawn felly gweld y Bwrdd Iechyd yn arwain y ffordd o ran gwreiddio Offeryn DEWI, ochr yn ochr â datblygu Bwndel Gweithredu cyflenwol sy’n helpu cleifion i aros yn actif ac yn annibynnol.”

Mae mwy na 650 o gleifion eisoes wedi cael cymorth i ddefnyddio Offeryn DEWI yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty ac mae arwyddion cynnar yn dangos tueddiadau cadarnhaol o ran cynnal neu wella gweithrediad yn ystod eu derbyniad.

Ar draws Hywel Dda, mae timau ward yn gwreiddio’r offeryn mewn gofal dyddiol, gan gynnwys defnyddio byrddau gwybodaeth gweledol a gweithgareddau i annog cleifion i barhau i fod yn egnïol, yn ymgysylltu ac yn annibynnol.

Dywedodd Estelle Williams, Prif Nyrs yr Uned Eiddilwch Acíwt, Ysbyty Llwynhelyg: “O safbwynt ward, mae Offeryn DEWI wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth helpu ein staff i feddwl am ddatgyflyru fel rhan o ofal bob dydd.

“Mae’n cadw pethau’n syml ac yn canolbwyntio ar gamau ymarferol y gallwn eu cymryd, fel cefnogi cleifion i barhau i symud, annog annibyniaeth a rhoi sylw i faeth a hydradu.

“Mae hefyd yn cyd-fynd yn dda â’r mentrau sydd gennym eisoes ar waith, gan gynnwys defnyddio ysgytlaeth cyfnerthedig, gan ddod â phopeth at ei gilydd mewn ffordd fwy cydgysylltiedig.”

Dywedodd James Severs, Cyfarwyddwr Gweithredol Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd: “Mae atal daddgyflyru yn hanfodol i wella canlyniadau cleifion a lleihau effaith hirdymor salwch.

“Mae’r gwaith hwn yn amlygu’r rôl hanfodol sydd gan holl staff wardiau o ran cadw pobl yn actif, cefnogi adferiad a chynnal annibyniaeth drwy gydol eu harhosiad yn yr ysbyty. Trwy nodi risgiau’n gynnar ac ymyrryd yn brydlon, rydym yn helpu cleifion i wella’n gynt a dychwelyd adref gyda mwy o hyder.”

Yn y dyfodol, bydd y Bwrdd Iechyd yn datblygu Offeryn DEWI ymhellach, gan ei wreiddio fel rhan o ofal safonol cyn, yn ystod ac ar ôl derbyniad i’r ysbyty.

DIWEDD

LLUN: Y Tîm Dadgyflyru, gan gynnwys o’r chwith i’r dde, Annie – Technegydd Therapi Galwedigaethol; Ruth a Rosie, nyrsys; Lauran, Cynorthwyydd Gofal Iechyd; Estell, Chwaer Ward, a Violet o’r Gwasanaethau Gwesty.

DIWEDD