Neidio i'r prif gynnwy

Haf o Falchder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

18 Awst 2022

Gyda chefnogaeth aelodau’r Bwrdd a’i Dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant, mae Rhwydwaith Staff LGBTQ+ Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ‘ENFYS’ wedi mwynhau mynychu digwyddiadau Pride lleol ar draws rhanbarth Hywel Dda yr haf hwn.

Cynhaliwyd stondinau gwybodaeth ar wasanaethau gofal iechyd allweddol ar gyfer pobl LGBTQ+ yn Pride Abertawe, Pride Caerfyrddin a Pride Llanelli gyda staff wrth law i siarad am wasanaethau iechyd rhywiol, gwasanaethau sgrinio, rhoi'r gorau i ysmygu, camddefnyddio sylweddau, imiwneiddio a llawer mwy.

Roedd Pride Caerfyrddin yn arbennig o deimladwy i bawb a fu’n ymwneud â’r digwyddiad a gynhaliwyd er cof am gydweithiwr y bwrdd iechyd Kate Rees, Boyt, a fu farw’n drasig ac yn annisgwyl yn 2021.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae wedi bod yn wych gweld aelodau o’n Rhwydwaith Staff LGBTQ+ ‘ENFYS’ a’n Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cefnogi ein digwyddiadau Pride lleol yr haf hwn.

“Roedd yn anrhydedd cael mynychu digwyddiad Pride cyntaf Caerfyrddin a chofio ein cydweithiwr Kate a wnaeth gymaint o waith gwych dros y gymuned.

“Mae mynychu ein digwyddiadau Pride lleol yn nodi pwysigrwydd bod yn gyflogwr cynhwysol, i groesawu pawb a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl”

Roedd aelodau rhwydwaith ENFYS hefyd yn cynrychioli’r bwrdd iechyd ac yn mynychu digwyddiadau Pride lleol eraill yn Llanymddyfri a Sir Benfro yr haf hwn.

Roedd hwn nid yn unig yn gyfle i’r bwrdd iechyd ddangos ei gefnogaeth i Pride ond hefyd i ymgysylltu â’n defnyddwyr gwasanaethau LGBTQ+ i ddysgu am ba wasanaethau sy’n bwysig iddynt a sut y gallwn gydweithio i wneud ein gwasanaethau’n fwy cynhwysol o bobl LGBTQ+.

Mae’r bwrdd iechyd ac aelodau rhwydwaith ENFYS eisoes yn gwneud cynlluniau i gymryd rhan yn nigwyddiadau Pride y flwyddyn nesaf yr ydym yn anelu at fod yn fwy ac yn well!

Mae rhwydwaith ENFYS yn ymfalchïo mewn bod yn fan diogel a chefnogol i staff a chynghreiriaid LGBTQ+ geisio cymorth anffurfiol ar gyfer unrhyw rai o’u pryderon. Gall staff BIP Hywel Dda sydd am ddysgu mwy am y rhwydwaith neu gymryd rhan chwilio am ‘ENFYS’ ar fewnrwyd y bwrdd iechyd.