Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog ymweld â thîm sy'n helpu pobl derbyn gofal yn y cartref

13 Rhagfyr 2023

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi ymweld â'r tîm Llesiant Delta a Gartref yn Gyntaf sydd wedi ennill gwobrau, i weld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i breswylwyr ledled y rhanbarth.

Gan weithio'n agos gyda'i gilydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llesiant Delta ac Ymddiriedaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi sefydlu tîm amlddisgyblaeth yn Llanelli sy'n cynnwys gwahanol gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal, er mwyn darparu gofal canolraddol - sef y gofal sydd ei angen arnoch ar ôl gadael yr ysbyty neu er mwyn osgoi cael eich derbyn i'r ysbyty.

Mae'r tîm yn cefnogi pobl drwy gyfnod o adferiad ac asesu gartref - neu mor agos at adref â phosib.

Ymwelodd Ms Morgan â chanolfan fonitro Llesiant Delta sy'n derbyn larymau, ac wedyn bu iddi gyfarfod ag aelodau o'r tîm Gartref yn Gyntaf, sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, ymarferwyr parafeddygol uwch, dietegwyr, meddygon teulu gofal canolraddol, tîm ymateb nyrsio acíwt a gwasanaeth ailalluogi integredig mewnol.

Dywedodd: “Yr hyn sy'n bwysig i bobl hŷn sydd angen gofal a chymorth yw cael gofal mewn amgylchedd cyfarwydd gyda phobl gyfarwydd. Nid ydynt am fynd i'r ysbyty oni bai bod hyn yn wirioneddol angenrheidiol.

“Maent hefyd yn llai tebygol o golli eu hyder a'u cryfder cyhyrau, ac yn llai tebygol o gael heintiau nag yn yr ysbyty.

“Rydym wedi ymrwymo i ysgogi newid a thrawsnewid, a mynd ymhellach, yn gyflymach i sicrhau y gall mwy o bobl gael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt gartref neu yn eu cymuned. Er mwyn galluogi hyn, mae angen rhannu dysgu am arfer gorau ledled Cymru.  

“Mae'r tîm Gartref yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin yn enghraifft wych o system integredig sy'n darparu dull radical, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran llesiant, gofal a chymorth yn y gymuned. Mae hyn yn helpu i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty a lleihau Oedi o ran Llwybrau Gofal ar draws y rhanbarth.”

Yn ystod ei hymweliad, cyhoeddodd Ms Morgan £8 miliwn yn ychwanegol i gefnogi pobl sydd â'r risg fwyaf i aros yn iach, i dderbyn gofal gartref neu'n agos at adref a lleihau'r pwysau ar ysbytai.  

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol gyda'r nos ac y penwythnos, gan gynnwys cynyddu oriau nyrsys cymunedol ac arbenigwyr nyrsio clinigol gofal diwedd oes. Bydd hefyd yn darparu gwasanaethau fel asesu'r bobl hynny sy'n byw gydag eiddilwch neu anghenion cymhleth eraill a chytuno ar gynllun i gefnogi eu llesiant a'u hannibyniaeth gartref, yn enwedig yn ystod salwch neu yn dilyn anaf.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae bron i £145 miliwn wedi'i fuddsoddi drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar brosiectau i ddarparu gofal yn nes at adref.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae galluogi cleifion i ddychwelyd adref yn gynharach o leoliadau ysbyty a chynnig offeryn arall i dimau gofal cymdeithasol i gefnogi cleientiaid o bell yn y gymuned yn caniatáu dull mwy rhagweithiol ac ataliol fel y gallwn oedi neu hyd yn oed stopio mynediad i'r gwasanaethau hyn. Mae'r tîm Gartref yn Gyntaf yn darparu un pwynt mynediad i sicrhau bod pobl yn cael mynediad i'r rhan gywir o'r system, y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys darparu dewisiadau eraill sy'n ddiogel yn glinigol i'r ysbyty lle bo hynny'n briodol a chefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain gyda'r cymorth cywir.

"Fel rhan o hyn, mae Llesiant Delta yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu cymorth gofal am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr hirdymor. Gyda staff yn yr ysbyty, maent yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd a thimau gofal cymdeithasol y cyngor i sicrhau y gellir rhyddhau cleifion cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth hanfodol i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rhyddhau capasiti gwelyau ysbyty, rhyddhau amser gwerthfawr i staff, cynnal llif cleifion ac osgoi cleifion sy'n ffit yn feddygol yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy. Mae hyn yn helpu'r claf i adennill ei gryfder a'i annibyniaeth ac aros gartref cyhyd ag y bo modd.”

Dyweodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Gofal Hirdymor,  Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roeddem yn falch o allu dweud wrth y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud i gefnogi ein mentrau Gartref yn Gyntaf. Mae'n dangos gweithio mewn partneriaeth ar ei orau ac rydym yn gweld rhai canlyniadau cadarnhaol iawn yn sgil y dull hwn o ymdrin â gofal iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Llesiant Delta, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac ystod o bartneriaid trydydd sector.”

Enillodd Gartref yn Gyntaf y wobr am Ddarparu Gwasanaethau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a'r wobr arbennig am Gyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal yng Ngwobrau GIG Cymru 2022.

Dywed Deidre Bromham, o Bontardawe, na fyddai wedi adfer cystal ar ôl ei strôc oni bai am ymateb cyflym y tîm Gartref yn Gyntaf a gwasanaeth ymateb Llesiant Delta.

Roedd y fenyw 73 oed yn ymweld â Llanelli am y diwrnod pan gwympodd mewn caffi a gwnaed galwad am ambiwlans. Credwyd ar y dechrau ei bod wedi cael codwm, gwelodd y tîm Gartref yn Gyntaf y digwyddiad ar y system ac aeth i'w chynorthwyo.

Sylweddolodd y parafeddyg Lewis Jones ar unwaith fod Mrs Bromham wedi dioddef strôc ac roedd angen iddi gyrraedd yr ysbyty cyn gynted â phosib.

Darparodd tîm ymateb Llesiant Delta yr offer codi angenrheidiol i gael Mrs Bromham i fyny o'r llawr ac i gadair olwyn, ac wedyn darparu'r cludiant i fynd â hi i Ysbyty'r Tywysog Philip lle'r oedd hi'n gallu derbyn triniaeth thrombolysis, y mae'n rhaid ei rhoi o fewn pedair awr a hanner i ddechrau'r symptomau.

Dywedodd Mrs Bromham, sydd bellach yn ôl adref gyda'i theulu: “Roedd yn frawychus, ond clywais lais Lewis yn dweud wrthyf ei fod yn mynd i edrych ar fy ôl i, ac fe wnaeth, roeddwn i'n teimlo'n ddiogel. Pe na fydden nhw wedi mynd â fi i'r ysbyty mor gyflym, fe allai fod wedi bod gymaint gwaeth.”

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.

Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddarparu teleiechyd i gefnogi cleifion i fonitro'r galon, swyddogaeth yr ysgyfaint, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyn-gymorth orthopedig o bell yn eu cartrefi eu hunain drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer iechyd wedi'i gysylltu ag ap ffôn symudol. Mae'r prosiect hwn yn trawsnewid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu gan ddefnyddio technoleg i helpu cleifion i reoli eu cyflyrau, cynnal eu hiechyd a'u llesiant ac i fyw'n annibynnol, gan wella ansawdd eu bywyd yn gyffredinol.

DIWEDD