Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau meddyg teulu yn Cei Newydd yn parhau tra bod trefniadau ar gyfer y dyfodol yn cael eu hystyried

21 Medi 2026

Bydd cleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Cei Newydd yn parhau i dderbyn gwasanaethau meddyg teulu fel arfer tan 31 Mawrth 2027, tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i'r boblogaeth yn y tymor hwy.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad y Partneriaid Meddyg Teulu i roi'r gorau i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y practis.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Hoffem ddiolch i'r gymuned am ei chefnogaeth barhaus i'r tîm yn Meddygfa Cei Newydd dros y misoedd nesaf."

“Hoffwn hefyd ddiolch i Dr Rob Morgan a Dr Eurig Harries am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i'w poblogaeth dros nifer sylweddol o flynyddoedd.

“Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r practis ac yn cysylltu â chleifion wrth i ni fwrw ymlaen â'n proses, er mwyn sicrhau ein bod yn casglu eu barn a'u syniadau ynghylch y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau iddynt.”

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at yr holl gleifion cofrestredig gyda rhagor o wybodaeth maes o law. Mae Meddygfa Cei Newydd ar agor fel arfer, ac gofynnir i gleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa ar hyn o bryd.

Gall cleifion sydd ag unrhyw gwestiynau ar hyn o bryd gysylltu â'r bwrdd iechyd drwy anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5).