Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd yn Llanelli i symud i Ganolfan Pentre Awel

Mae nifer o wasanaethau gofal iechyd i gleifion yn ardal Llanelli yn adleoli i Ganolfan Pentre Awel dros yr wythnosau nesaf, gan ddod â gwasanaethau'n agosach at y gymuned mewn lleoliad gofal iechyd modern a phwrpasol.

Agorodd Canolfan Pentre Awel i'r cyhoedd ym mis Hydref 2025 ac mae'n darparu gwell hygyrchedd, cysylltiadau trafnidiaeth a pharcio i gleifion ac ymwelwyr.

Mae gwasanaethau fflebotomi (profion gwaed) ar gyfer cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Llanelli eisoes wedi symud i'w cartref newydd yng Nghanolfan Pentre Awel yn gynharach y mis hwn.

Bydd gwasanaethau pellach yn adleoli drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf:

O 22 Mehefin 2026

  • Clinigau COVID-19 ac RSV (a ddarperir o Dafen ar hyn o bryd)
  • Asesiadau Adsefydlu Cardiaidd gan Nyrsys (a ddarperir ar hyn o bryd o Ysbyty Tywysog Philip)

O 29 Mehefin 2026

  • Bydd y gwasanaethau canlynol, a ddarperir o Llwynhendy ar hyn o bryd, yn symud i Ganolfan Pentre Awel:
  • Clinig Cymunedol Methiant y Galon
  • Rheoli Catheter a Threialu Heb Cathetr (TWOC)
  • Gwasanaeth Ymataliaeth Nyrsio Ardal
  • Gwasanaeth Microsugno Cwyr Clust
  • Gwasanaeth Ymataliaeth Arbenigol, fel rhan o'r Gwasanaeth Cynghori ar y Coluddyn a'r Bledren

Adleoli gwasanaethau ychwanegol o ddiwedd mis Mehefin:

  • O 29 Mehefin – y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (a ddarperir ar hyn o bryd o MIND, Caerfyrddin)
  • Gwasanaeth newydd - Clinig IV. Y clinig IV yw lle mae claf yn cael asesiad llawn, gwirio arsylwadau allweddol a chymryd profion gwaed
  • O 8 Gorffennaf – Clinig Clefyd yr Afu

Nid oes angen i gleifion sydd ag apwyntiadau presennol gymryd unrhyw gamau. Os bydd unrhyw newidiadau yn effeithio ar apwyntiad, cysylltir â chleifion yn uniongyrchol. Ni fydd unrhyw newid i drefniadau apwyntiadau a manylion cyswllt oni bai bod cleifion yn cael eu cynghori fel arall.

Ar gyfer ymholiadau pellach, cysylltwch â'r Hyb Cyfathrebu ar 0300 303 8322.

Meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Grŵp Gofal Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn falch iawn o ddod â mwy o wasanaethau ynghyd yng Nghanolfan Pentre Awel, gan ei gwneud hi'n haws i bobl yn ardal Llanelli i gyrchu gofal sydd ei angen arnynt, yn eu cymuned.

"Mae'r cyfleuster yn darparu amgylchedd modern, croesawgar i gleifion a gwell amodau gwaith i staff. Trwy ddod â thimau ynghyd o dan yr un to, gallwn gryfhau cydweithredu ar draws gwasanaethau a darparu profiad mwy cydgysylltiedig i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau.

"Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad hirdymor pwysig mewn darpariaeth gofal iechyd i gymuned Llanelli."

Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Mae Canolfan Pentre Awel wedi ymrwymo'n llwyr i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd cymunedol. Bydd cleifion, teuluoedd a gofalwyr bellach yn elwa o amgylchedd modern a chroesawgar sydd wedi'i gynllunio i gefnogi gofal integredig a gwella'r profiad cyffredinol o gael mynediad at wasanaethau. Mae'r symudiad hwn yn cynrychioli carreg filltir bwysig i Ganolfan Pentre Awel ac yn gam sylweddol ymlaen wrth ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ar gyfer y rhanbarth."

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau iechyd Hywel Dda wedi'u lleoli ar y llawr gwaelod, ar yr ochr dde yng nghefn yr adeilad.

I helpu i gynllunio eich ymweliad, ewch i wefan Canolfan Pentre Awel (yn agor mewn tab newydd).

I gael gwybodaeth am lwybrau bysiau, ewch i Traveline Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Ar gyfer cleifion sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae llwybr bws lleol L1 a L2 yn cysylltu Canolfan Pentre Awel â lleoliadau allweddol, ac mae'r safle bws ger y prif ddrws. Mae'r llwybr, sy'n gweithredu tua bob 90 munud, yn cysylltu canol tref Llanelli, Parc Pemberton, Parc Trostre, Penyfan, Morfa, Canolfan Pentre Awel, Dyffryn y Swistir, Ysbyty Tywysog Philip a Felinfoel.

Mae'r llwybr L11 ar gael i'r rhai sy'n byw yng Nghydweli a'r ardaloedd cyfagos ar ddechrau a diwedd pob diwrnod.