Mae meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol yn gweithio'n galed i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd nifer o fferyllfeydd cymunedol ar agor am ychydig oriau ddydd Gwener Mai 8 i ddarparu gwasanaethau fel dosbarthu presgripsiynau, triniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin, cyflenwi meddyginiaeth mewn argyfwng ac atal cenhedlu brys. I ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/46867#Pharmacy
Bydd rhai meddygfeydd, a restrir yn y tabl isod, ar agor am gyfnod cyfyngedig ar ddydd Gwener gŵyl y banc sydd i ddod. Byddant yn cynnig gwasanaethau hanfodol i gleifion sydd angen ymgynghoriad brys.
Bydd cleifion yn cael eu hasesu dros y ffôn gan feddyg teulu neu nyrs a byddant yn cael cynnig ymgynghoriadau wyneb yn wyneb os yw'n briodol yn glinigol. Gofynnir i gleifion gysylltu â'u meddygfa fel arfer os oes angen.
|
Meddygfa |
Oriau agor Dydd Gwener 8 Mai |
|
Amman Tawe |
08.00 – 18.30 |
|
Minafon / Cydweli |
08.00 – 18.30 |
|
Sarn/Pontiets |
08.00 – 18.30 |
|
Tymbl |
08:00 – 13:00 |
|
Brynteg |
08.00 – 18.30 |
|
Ashgrove |
08.00 – 18.30 |
|
Avenue Villa |
08.00 – 18.30 |
|
Coach & Horses |
08.00 – 18.30 |
|
Llandeilo |
08.00 – 18.30 |
|
Furnace House |
08.00 – 18.30 |
|
Hendy-gwyn-ar-Dâf |
08.00 – 18.30 |
|
Saint Pedr |
08.00 – 18.30 |
|
Llan |
08.00 – 18.30 |
|
Padarn |
08.00 – 18.30 |
|
Ystwyth |
08:00 – 13:00 |
|
Tregaron |
08.00 – 18.30 |
|
Bro Pedr |
08.00 – 18.30 |
|
Barlow House |
08.00 – 18.30 |
|
Winch Lane |
08.00 – 18.30 |
|
Dinbych y Pysgod |
08.00 – 18.30 |
Rhaid i gleifion sydd angen mynychu apwyntiadau hanfodol gysylltu â'u meddygfa cyn mynychu os ydyn nhw'n profi symptomau peswch newydd neu dymheredd. Diolch am eich cydweithrediad.