Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr BIP Hywel Dda ar gael i gyn-filwyr â heriau iechyd meddwl

16 Mai 2023

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddiolch i’n cyn-filwyr am eu holl aberth a hefyd yn gyfle i gynnig gobaith iddynt ar gyfer y dyfodol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda yn annog cyn-filwyr i geisio cymorth proffesiynol ar gyfer heriau iechyd meddwl y gallent fod yn eu profi yn dilyn eu gwasanaeth.

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn cefnogi cyn-filwyr ag anawsterau iechyd meddwl sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’u gwasanaeth milwrol. Nid oes rhaid i'r anawsterau hyn fod yn ymwneud yn benodol â gwasanaeth ymladd. Er enghraifft, gallai cyflyrau iechyd meddwl y gellir eu priodoli’n filwrol ddeillio o gadw heddwch neu weithrediadau dyngarol, neu gael eich bwlio wrth wasanaethu, neu mewn ymateb i anaf corfforol y gellir ei briodoli i’r fyddin. Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn wasanaeth cenedlaethol, ac mae gan bob bwrdd iechyd ei dîm ei hun i gynnig y gwasanaeth gorau posibl, ni waeth ble yng Nghymru yr ydych yn byw.

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig therapïau seicolegol gwahanol. Mae'r tîm yn cynnig therapi awyr agored mewn mannau prydferth naturiol lleol. Mae effaith cael therapi yn yr awyr agored yn arbennig yn ôl un cyn-filwr a ddywedodd, “Roeddwn i wrth fy modd yn bod yn yr awyr agored, fe wnaeth wahaniaeth mawr, fe achubodd fy mywyd. Wnes i erioed ddychmygu y gallai therapi fod mor dda â hyn.”

Dywedodd Julie Graham, Arweinydd Clinigol GIG Cymru i Gyn-filwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ôl digwyddiad trawmatig neu straen, waeth pa mor fawr neu fach, gall cyn-filwyr fynd yn isel eu hysbryd, yn bryderus neu hyd yn oed yn ddideimlad. Efallai y bydd rhai yn datblygu PTSD ac yn ail-fyw'r profiad hwnnw drosodd a throsodd, hyd yn oed flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Gall triniaeth gynnwys edrych yn ôl a rhoi trefn ar y digwyddiadau hynny yn y gorffennol, efallai ei fod yn ymwneud â dysgu ymdopi’n wahanol yn y presennol a hefyd, yn bwysicaf oll, mae’n ymwneud â chynllunio ar gyfer y dyfodol.”

“Rydyn ni’n cynnig gwahanol fathau o driniaethau, ond maen nhw i gyd wedi’u cynllunio i helpu gyda’r mathau hyn o broblemau a’u bwriad yw lleihau neu hyd yn oed gael gwared ar y problemau rydych chi’n eu cael trwy ddysgu ffyrdd newydd o ymdopi, gwneud newidiadau i sut rydych chi’n teimlo, sut rydych chi’n meddwl, a beth rydych chi'n ei wneud. Wrth ddarparu therapi yn yr awyr agored rydym wedi gweld trawsnewidiad ym mywydau cyn-filwyr mewn ffordd nad ydym erioed wedi’i phrofi mewn ystafell glinig.”

Ni all GIG Cymru i Gyn-filwyr ymdrin â materion brys/argyfwng. Dylai unigolion mewn argyfwng neu sydd angen cymorth brys ofyn am help gan eu Meddyg Teulu neu fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Fel arall gallant gysylltu â'r Llinellau Cymorth Combat Stress 0800 138 1619 neu CALL ar 0800 132 737.

Ychwanegodd Julie, “Dros y ddegawd ddiwethaf mae hi wedi bod yn fraint helpu cymaint o gyn-filwyr gyda’r problemau maen nhw wedi’u hwynebu oherwydd eu profiadau milwrol. Yn bersonol, mae wedi bod yn werth chweil eu gweld yn gallu gadael y beichiau y maent wedi bod yn eu cario ers blynyddoedd lawer ar eu hôl.

“Disgrifiodd un cyn-filwr sut roedd eu triniaeth wedi eu helpu i wneud synnwyr o’r gorffennol a daeth blynyddoedd o ddryswch i ben iddo. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n wirioneddol anhygoel yw bod rhai cyn-filwyr wedi dweud wrthym fod therapi wedi newid eu bywydau, ac mae rhai cyn-filwyr hyd yn oed wedi dweud bod y gwasanaeth wedi achub eu bywyd.”

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod elwa o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm GIG Cymru i Gyn-filwyr BIP Hywel Dda ar 01570 422577 os ydych chi’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro. Os ydych yn byw y tu allan i'r siroedd hyn, ewch i www.veteranswales.co.uk i gael manylion cyswllt eich gwasanaeth lleol.