Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp cymorth canser yn cwrdd ar y llwybr i adferiad

09 Tachwedd 2021

O’r diwedd, mae grŵp cymorth rhithwir â’r nod o helpu cleifion sydd â chanser y pen a’r gwddf, wedi cwrdd mewn person ar ôl misoedd o sesiynau ar-lein.

Yn y gorffennol, roedd Tîm Canser y Pen a’r Gwddf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhedeg Rhaglen Adferiad Acíwt Cyfannol o’r enw HARP (Holistic Acute Recovery Programme) a oedd yn cefnogi cleifion yn dilyn triniaeth. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau COVID-19 roedd yn rhaid rhoi stop ar y rhaglen, ond ym mis Mai eleni dechreuodd y staff grŵp cymorth rhithwir.

Mae’r sesiynau a hwyluswyd gan y tîm yn darparu gofod diogel i gleifion gefnogi ei gilydd. Mae siaradwyr gwadd hefyd yn ymuno â’r grŵp i drafod pynciau ar gais y cleifion megis deiet, ffordd o fyw a lymffoedema.

Gyda llacio cyfyngiadau, roedd y cleifion yn awyddus i gwrdd wyneb yn wyneb, felly trefnodd y tîm daith gerdded hamddenol yn yr Ardd Fotaneg ac yna lluniaeth.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant, gan ddwyn pobl ynghyd i rannu eu profiadau o ganser a’u llwybr i adferiad.

Dyma rywfaint o adborth gadarnhaol cleifion:

“Ar ran fy ngwraig a minnau, derbyniwch ein gwerthfawrogiad diffuant am drefnu’r diwrnod allan a oedd yn gyfle hyfryd i gwrdd ag eraill sy’n mynd trwy driniaeth debyg a phrofiadau tebyg ar hyd y llwybr i adferiad.”

a

“Roedd yn ddigwyddiad gwerth chweil a hyfryd i’r cleifion sydd ar wahanol gamau ar y llwybr i adferiad i ddod ynghyd. Er nad oeddwn yn nabod unrhyw glaf arall, dechreuais sgwrsio gyda nifer ohonynt a rhannu profiadau triniaeth ac adferiad wrth i ni gerdded o amgylch yr ardd.”

Mae’r sesiynau cymorth yn cael eu rhedeg ar Zoom ar y trydydd dydd Mercher o bob mis am 7pm. I ganfod mwy, cysylltwch â’r tîm ar 01267 248750 neu HDD.HeadandNeckCancerTeam@wales.nhs.uk