Neidio i'r prif gynnwy

Gosod fferm solar ar safle Parc Dewi Sant

Llun o fferm solar

19 Gorffennaf 2022

Mae fferm solar gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi’i gosod yn Hafan Derwen, sydd wedi’i lleoli ar safle Parc Dewi Sant.

Mae'r 1,098 o baneli wedi'u gosod ar ardal sy'n gorchuddio ychydig dros un erw. Nod y cynllun fferm solar 450 KW yw darparu trydan a gynhyrchir ar y safle yn uniongyrchol i safle Hafan Derwen, yr amcangyfrifir y bydd yn arwain at arbedion carbon blynyddol o 120.43tCo2e, ynghyd ag arbedion ariannol.

Mae’r tir o amgylch yn cael ei ddatblygu i wella bioamrywiaeth gan ddarparu man i staff orffwys ac ymlacio wrth gael eu hamgylchynu gan fywyd gwyllt a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar sut mae staff yn gweld eu gweithle ac yn cynnig seibiant o amgylchedd gwaith prysur.

Dywedodd Paul Williams, Pennaeth Perfformiad Eiddo yn BIP Hywel Dda: “Rydym yn falch o gyhoeddi bod y gwaith gosod fferm solar ar fin cael ei gwblhau ar safle Hafan Derwen a disgwylir iddo fod yn weithredol yn ddiweddarach yr haf hwn. Mae'r prosiect solar yn un o'r mentrau sydd â'r nod o leihau ein hôl troed carbon. Bydd y prosiect yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle a hefyd yn creu man gwyrddach, cyfeillgar i'r amgylchedd ar gyfer staff gyda'r parc bio-amrywiaeth arfaethedig.

“Dyma gam cadarnhaol arall eto i’r cyfeiriad o fanteisio ar ac archwilio datrysiadau ecogyfeillgar ac ynni-effeithlon ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd.”

Mae’r prosiect fferm solar yn rhan o fenter datgarboneiddio’r bwrdd iechyd. Dyma un o’r camau niferus y mae’r bwrdd iechyd yn eu cymryd tuag at fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae paneli ffotofoltäig ar y to wedi’u gosod ar naw safle ar draws Hywel Dda, gan gynnwys Ysbyty Dyffryn Aman, Bro Cerwyn, Ysbyty Bronglais, Ysbyty Llwynhelyg, Canolfan Iechyd Aberdaugleddau, Canolfan Iechyd Doc Penfro, Ysbyty De Sir Benfro, Llanymddyfri a Chanolfan Gofal Integredig Aberteifi. Amcangyfrifir y bydd y cynlluniau hyn yn arbed tua 622,763 Kwh o drydan i gyd. Disgwylir i arbedion carbon blynyddol o'r prosiectau hyn fod tua 153 tCO2e.