Neidio i'r prif gynnwy

Gorchuddion wyneb yn hanfodol ym mhob ysbyty a chyfleusterau gofal iechyd Hywel Dda

Diweddariad COVID Hywel Dda

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i orchuddion wyneb gael eu gwisgo ym mhob man cyhoeddus dan do.

Yn hynny o beth, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno mesurau newydd er mwyn cadw ymwelwyr, cleifion a staff yn ddiogel.

Yn effeithiol ar unwaith, rhaid i bob aelod o'r cyhoedd wisgo gorchudd wyneb cyn iddynt fynd i mewn i unrhyw un o'n hysbytai a'n cyfleusterau gofal iechyd, oni bai eu bod yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer peidio â gwisgo gorchudd wyneb.

Rhaid i orchuddion wyneb orchuddio'r geg a'r trwyn ac wrth roi gorchuddion ymlaen, cynghorir y cyhoedd y dylent afael yn y strapiau, y cysylltiadau neu'r clipiau yn unig. Ni ddylent gyffwrdd â gorchudd blaen yr wyneb, na'r rhan o'r gorchudd wyneb sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r geg a'r trwyn. Dylai pobl hefyd olchi eu dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr am 20 eiliad, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo, cyn ac ar ôl tynnu gorchuddion.

Bydd cleifion yn cael eu hysbysu yn eu llythyrau apwyntiad o'r angen i fynychu'r safle gyda gorchudd eu hwyneb eu hunain.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r mesurau newydd hyn wedi’u cyflwyno i amddiffyn ymwelwyr, cleifion a’n staff. Mae'n hanfodol i bobl gofio nad yw Coronafirws wedi diflannu ac mae’n parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol hirdymor. Byddwn yn annog y cyhoedd i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys cadw dwy fetr i ffwrdd oddi wrth eraill y tu allan i'w swigen cartref, yn ogystal â golchi dwylo'n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad yw'n bosibl golchi dwylo."