Neidio i'r prif gynnwy

Gofynion gorchuddion wyneb wedi'u codi yn holl safleoedd BIP Hywel Dda

Diweddariad COVID Hywel Dda

11 Awst 2022

Yn weithredol ar unwaith (dydd Iau 11 Awst 2022), nid yw gwisgo gorchuddion wyneb ar gyfer holl staff, cleifion ac ymwelwyr bellach yn orfodol ar draws safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roedd gorchuddion wyneb wedi’u hailgyflwyno’n eang ar draws y Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn achosion positif COVID-19 yn y gymuned.

Byddwn yn parhau i gefnogi staff, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau'r cyhoedd sy'n dewis gwisgo gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i'n cyfleusterau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan sicrhau eu bod ar gael mewn mannau cyhoeddus, wardiau ac adrannau.

Rhaid i staff sy'n gofalu am gleifion a phobl sy'n ymweld â chleifion sydd â heintiau anadlol COVID-19 hysbys neu yr amheuir barhau i wisgo PPE priodol a dilyn y canllawiau rheoli heintiau diweddaraf.

Peidiwch ag ymweld ag unrhyw un o'n hysbytai os ydych yn sâl; â thri phrif symptom COVID-19 - peswch parhaus newydd, tymheredd neu golled neu newid blas neu arogl; gyda sympomau tebyg i ffliw; neu wedi cael dolur rhydd a chwydu yn ystod y 48 awr ddiwethaf; neu wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un ag unrhyw un o'r symptomau hyn yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Roedd adfer gorchuddion wyneb yn ysbytai Llwynhelyg, Glangwili a Thywysog Philip mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn achosion positif COVID-19 yn ein cymuned.

“Hoffwn ddiolch i’n cymuned am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni barhau i addasu ac ymateb i helpu i gadw staff, cleifion ac ymwelwyr yn ddiogel. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a gall newid mewn ymateb i’n sefyllfa COVID-19 leol.

“Hoffwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd parhaus ymddygiadau y gwyddys eu bod yn lleihau trosglwyddiad COVID-19 a chlefydau heintus eraill.

“Ynysu os oes gennym ni symptomau COVID-19, neu glefydau heintus eraill, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i atal lledaeniad n a thorri’r gadwyn drosglwyddo.

“Mae hylendid dwylo da ac agor ffenestri a sicrhau awyru da i adael awyr iach i mewn yn atal y firws rhag aros o gwmpas ac yn lleihau'r risg y bydd yn lledaenu.

“Dydi hi byth yn rhy hwyr chwaith i ddod ymlaen am eich brechiad COVID-19. Ymwelwch â'n gwefan  ar gyfer amseroedd agor galw heibio neu cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad 0300 303 8322 neu e-bostio COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk.”