Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn am farn ar y newidiadau sydd ar ddod i drigolion Hywel Dda sy'n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton

17 Awst 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd adborth i ddeall yr effaith bosibl, ac unrhyw gymorth y gallai fod ei angen ar fenywod a theuluoedd pan fydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2026.

Mae'r cytundeb rhwng y byrddau iechyd wedi galluogi menywod sy'n byw yn ardal Hywel Dda sy'n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton i fynychu clinigau cynenedigol ac apwyntiadau sganio yn Ysbyty Tywysog Philip.

O fis Rhagfyr, os ydych chi'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac yn dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton:

  • bydd eich apwyntiadau cynenedigol - os ydych chi'n derbyn gofal obstetreg (meddyg) - yn cael eu cynnal yn Ysbyty Singleton.
  • bydd eich sganiau uwchsain – os ydych chi'n derbyn gofal dan arweiniad obstetreg neu fydwreigiaeth – yn cael eu cynnal yn Ysbyty Singleton.

Ni fydd unrhyw newid i'r rhai sy'n dewis rhoi genedigaeth o fewn Hywel Dda. Ar gyfer y menywod hyn, bydd clinigau cynenedigol ar gyfer y rhai sy'n derbyn gofal obstetreg yn parhau yn Ysbyty Tywysog Philip, yn ogystal â sganiau uwchsain i bawb.

Mae gofal bydwreigiaeth gymunedol yn parhau i fod yr un fath i bawb a bydd yn parhau i gael ei ddarparu'n lleol gan fydwragedd Hywel Dda.

Mae trafodaethau rhwng y ddau fwrdd iechyd wedi dod i'r casgliad bod y trefniant presennol yn cyflwyno rhai heriau oherwydd gwahaniaethau mewn canllawiau clinigol, polisïau a threfniadau llywodraethu. Mae adolygiadau wedi nodi y gall y gwahaniaethau hyn arwain at anghysondebau mewn gofal a goruchwyliaeth glinigol.

O ganlyniad, mae'r ddau sefydliad wedi cytuno y bydd dod â'r cytundeb i ben yn cefnogi llwybr mwy diogel, mwy cydlynol a chynaliadwy i fenywod a babanod, tra'n cryfhau llywodraethu clinigol, parhad gofal ac atebolrwydd.

Rhwng 17 Awst 2026 a 28 Medi 2026, bydd pobl yn gallu rhoi eu barn ar sut y gallai terfynu'r cytundeb rhwng y ddau fwrdd iechyd effeithio arnynt.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: "Mae'r cyfnod ymgysylltu hwn yn gyfle i bobl rannu eu barn a'n helpu i ddeall sut y gall y newid arfaethedig effeithio arnyn nhw, a pha faterion cymorth neu ymarferol y mae angen i ni eu hystyried.

"Nod y newid yw sicrhau bod menywod yn derbyn gofal diogel a chyson gan eu bwrdd iechyd dewisol, tra'n lleihau'r risgiau a'r anghysondebau sy'n gysylltiedig â'r model hybrid presennol."

Dywedodd Cerian Llewellyn, Pennaeth Mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Bydd menywod sy'n byw yn Hywel Dda yn parhau i gael eu cefnogi yn eu dewis o ble maen nhw am roi genedigaeth.

"Ar ddechrau beichiogrwydd, mae pob menyw yn cael asesiad risg ac yn cael eu hasesu'n barhaus trwy gydol eu beichiogrwydd i nodi a oes angen gofal arnynt dan arweiniad obstetregydd neu fydwraig.

"Bydd gofal bydwreigiaeth gymunedol yn aros yr un fath i bawb a bydd yn parhau i gael ei ddarparu'n lleol gan fydwragedd Hywel Dda. Bydd y newid arfaethedig hwn yn effeithio ar leoliad apwyntiadau sganio i fenywod ac apwyntiadau cynenedigol ar gyfer y rhai sydd angen gofal dan arweiniad obstetreg ac sy'n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton."

Ychwanegodd Sharon Daniel: "Mae'r newid arfaethedig hwn yn ganlyniad i dimau mamolaeth ar draws y ddau fwrdd iechyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod risgiau yn y gofal maen nhw'n eu darparu yn cael eu lleihau.

"Rydym yn credu y bydd y newid hwn yn sicrhau llwybrau gofal cyson i'r rhai sy'n dewis cael eu babi/babanod  yn Ysbyty Singleton.

"Y nod yw darparu model gofal mwy diogel, mwy cynaliadwy wrth barhau i gynnig dewis a pharhad i fenywod a'u babanod."

Gellir cyflwyno adborth ar y newid arfaethedig hwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy ddefnyddio un o'r dulliau canlynol: