Rydym yn parhau i brofi pwysau ar draws ein gwasanaethau Tu allan i Oriau, adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygfeydd.
Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt yn sâl neu wedi anafu, efallai mai gwasanaethau eraill sy’n darparu gofal sydd ei angen arnoch:
Yn ogystal, os oes gennych berthynas neu anwylyd yn yr ysbyty sydd wedi cael ei basio'n ffit i gael eu rhyddhau, helpwch ni trwy drefnu gyda'r ward i cael nhw adref mor gynted â phosibl os yn bosib - mae hyn yn well iddyn nhw ac yn ein helpu ni i ryddhau gwelyau ar gyfer cleifion gofal brys eraill. Er ein bod yn cydnabod bod gwahanol resymau pam y gallai claf brofi oedi cyn cael ei ryddhau, mae unrhyw gymorth y gallwch ei ddarparu yn bwysig gan ei fod yn ein helpu i amddiffyn adnoddau acíwt y GIG ar gyfer y person nesaf sydd ei angen.
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gyda’r cyfri lawr i’r Flwyddyn Newydd ar y gweill, mae’n deg dweud ein bod eisoes yn profi rhai cyfnodau anodd iawn yn ceisio darparu gwasanaethau gofal brys ac argyfwng.
“Mae gennym ni ddisgwyliadau clir ynglŷn â gweld a thrin cleifion yn y ffordd rydyn ni eisiau, ond allwn ni ddim ei wneud heb gymorth ac mae angen y cyhoedd arnom yn frys i’n helpu ni. Dilynwch ganllaw Dewis Doeth ac ystyriwch fathau eraill o ofal os yn bosibl, ac os ydych chi'n cynllunio unrhyw ddathliadau i groesawi’r Flwyddyn Newydd, cofiwch gadw'n ddiogel ac yn iach gan fod y noson brysur hon o'r flwyddyn yn rhoi llawer o alw ychwanegol ar ein staff a'n sefydliadau partner fel y gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu.”