Gall gwirfoddoli i'r GIG fod yn hynod werth chweil ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am bobl newydd i ymuno â'u gwasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd yng Ngheredigion.
Mae yna lawer o resymau pam y gallwch chi ystyried gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'n ffordd wych o gael profiad o amgylchedd ysbyty os ydych chi'n ystyried gyrfa ym maes iechyd. Gall hefyd eich helpu i roi rhywbeth yn ôl os ydych chi wedi bod yn glaf eich hun neu os oedd gennych berthynas yn yr ysbyty.
Mae yna lawer o wahanol rolau gwirfoddol ar gael fel bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau neu groesawu ymwelwyr i’r ysbyty wrth y dderbynfa ac rydyn ni'n chwilio'n arbennig am bobl a fyddai'n gallu helpu gyda'r troli siop a bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau yn Ysbyty Bronglais.
Bydd sesiynau gwybodaeth gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal ym mis Chwefror a gall unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr ddarganfod mwy trwy gysylltu â'r tîm Gwirfoddoli dros Iechyd ar 01267 244401 neu HDd.VolunteerForHealth@wales.nhs.uk
Dywedodd David Fretwell, Rheolwr Gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Un o’r buddion mwyaf y gall gwirfoddolwyr ei gynnig i’r GIG yw’r gefnogaeth a’r cysur a rowch i’n cleifion. Rydyn ni eisiau sefydlu troli siop yn Ysbyty Bronglais ond rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n lleol i Geredigion ac sydd eisiau gwirfoddoli i gysylltu."
I ddarganfod mwy am Wasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/Gwirfoddoli