Neidio i'r prif gynnwy

Gallai dau funud achub hyd at naw bywyd yr Wythnos Rhoi Organau yma

21 Medi 2026

Yn ystod Wythnos Rhoi Organau (21-27 Medi), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu'r GIG i annog pobl i gymryd dau funud i gofrestru eu penderfyniad rhoi organau a'i rannu gyda'u teulu a'u ffrindiau. 

Ledled y DU, mae miloedd o bobl yn aros am drawsblaniad sy'n achub bywydau, gan gynnwys cleifion yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gall un rhoddwr organau achub neu wella bywydau hyd at naw o bobl. 

Dywedodd Lauren Blunsden, Nyrs Arbenigol ar gyfer Rhoi Organau: "Yn Hywel Dda, ar hyn o bryd mae gennym fwy na 50 o gleifion yn aros am drawsblaniad sy'n achub bywydau. 

"Mae cofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG yn cymryd dim ond dau funud a gallai achub hyd at naw bywyd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud wrth eich anwyliaid am eich penderfyniad fel eu bod yn gwybod beth rydych chi ei eisiau." 

Mae tua 87,423 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, 37,606 o bobl yng Ngheredigion a 38,943 o bobl yn Sir Benfro eisoes wedi cofnodi eu penderfyniad i fod yn rhoddwr ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.

Er bod deddfau rhoi organau wedi newid ledled Cymru, mae teuluoedd bob amser yn cymryd rhan cyn y gall rhoi organau ddigwydd. Mae hyn yn golygu ei bod yn parhau i fod yn hanfodol i gofrestru eich penderfyniad a'i drafod gyda'r rhai agosaf atoch chi. 

Mae naw o bob deg teulu yn cefnogi rhoi organau pan fyddant yn gwybod penderfyniad eu hanwylyd ac wedi ei drafod o'r blaen. 

Dywedodd Chantal Patel, Cadeirydd Pwyllgor Rhoi Organau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Drwy gofrestru eich penderfyniad a siarad â'ch teulu a'ch ffrindiau, gallwch helpu i sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu deall a'u parchu. Mae rhoi organau yn rhodd ryfeddol a all achub bywydau a dod â gobaith i eraill ar adeg anodd." 

Dywedodd Helen, derbynnydd rhodd o Sir Gaerfyrddin: "Rydw i wedi bod yn glaf arennol ers dros 30 mlynedd ac mae fy mywyd wedi newid yn llwyr er gwell trwy gael trawsblaniad aren. Gallaf ddweud yn onest nad wyf yn credu y byddwn yma hebddo." 

"I unrhyw un sy'n ystyried cofrestru, rhoi organau yw'r anrheg fwyaf y gall person ei roi i un arall." 

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi a Thrawsblannu Organau a Meinweoedd yn Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG:

"Rydym yn wynebu un o'r cyfnodau mwyaf heriol ar gyfer rhoi organau mewn dros ddegawd. Bu gostyngiad sydyn mewn rhoddwyr a nifer cynyddol o bobl sy'n aros am drawsblaniad. Mae angen gweithredu brys.

"Rydym eisoes wedi addasu'n sylweddol i newidiadau yn yr amgylchedd rhoddion. Ond, mae angen ymdrech ar y cyd ar draws y GIG a'r gymdeithas i achub bywydau, a lleihau'r rhestr aros.

"Mae yna gamau syml y gall pobl eu cymryd i helpu i achub bywydau. Llofnodwch Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG. Byddai'r rhan fwyaf ohonom yn derbyn organ pe bai angen un arnom, ond mae cyfleoedd i achub bywydau yn cael eu colli oherwydd nad oedd teuluoedd yn gwybod beth oedd eu hanwyliaid eisiau. Gadewch nhw'n sicr.

"Mae'n cymryd dau funud i gadarnhau penderfyniad rhoi organau ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG. Gall pob rhoddwr achub hyd at naw bywyd. Ewch i organdonation.nhs.uk (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 0300 123 23."

I ddarganfod mwy neu gofrestru eich penderfyniad, ewch i Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG yn www.organdonation.nhs.uk a rhannwch eich penderfyniad gyda'ch teulu a'ch ffrindiau.