Neidio i'r prif gynnwy

Dyn o Aberystwyth yn tynnu sylw at gymorth GIG Cymru ar-lein

11 Mai 2026

Mae dyn o Aberystwyth yn annog eraill i weithredu er eu lles yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar ôl dod o hyd i gefnogaeth hanfodol ar-lein drwy GIG Cymru.

Gadawyd George Ryley wedi'i lethu'n gorfforol ac yn feddyliol gan bwysau gwaith a chyfnod o iechyd gwael.

Ar ôl cysylltu â'i feddyg teulu, cafodd ei atgyfeirio am therapi wyneb yn wyneb a'i gyfeirio at raglen Gofod rhag Straen SilverCloud® Cymru.

Disgrifiodd y gefnogaeth fel un 'anhygoel' a dywedodd fod y gwersi a ddysgodd wedi 'newid ei fywyd’.

“Dyma wersi bywyd hanfodol nad oedd neb erioed wedi’u dysgu i mi,” meddai George.

“Byddaf yn eu cario gyda mi am weddill fy oes. Os ydych chi eisiau gwella ac aros yn iach, mae gofalu am eich iechyd meddwl yn broses barhaus.”

Roedd George, a ddechreuodd ei gwmni ei hun yn ddiweddar ac sy'n gweithio fel ecolegydd a swyddog amgylcheddol, yn siarad fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, sydd eleni'n canolbwyntio ar y thema 'Gweithredu'. 

Dywedodd fod ei anawsterau wedi dod i uchafbwynt ym mis Ebrill y llynedd pan adawodd straen gwaith mewn rôl flaenorol a chyfnod o salwch corfforol a achoswyd gan wenwyndra llwydni ef yn gaeth i'r gwely am bum wythnos.

“Roeddwn i wedi arfer bod yn brysur, ymarfer corff yn rheolaidd ac ymdopi â beth bynnag roedd bywyd yn ei daflu ataf,” meddai.

“Yn sydyn, cefais fy ngwthio i’r sefyllfa hon lle’r oedd hyd yn oed cael cawod yn sugno fy holl egni am y diwrnod. Cafodd effaith ddifrifol ar fy iechyd meddwl.”

Ar ôl cael ei atgyfeirio am gwnsela, anogwyd George i archwilio cefnogaeth ychwanegol a chytunodd i roi cynnig ar SilverCloud® (agor mewn tab newydd).

Mae'r rhaglenni am ddim, sy'n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), ar gael drwy'r amser ar ffôn clyfar, gliniadur neu dabled.

Cynghorir defnyddwyr i dreulio 20 munud y dydd, dair gwaith yr wythnos yn gweithio trwy'r ymarferion.

“Doedd gen i ddim y meddylfryd mwyaf cadarnhaol ac - ar y dechrau - doeddwn i ddim yn credu y byddai’n gweithio,” cyfaddefodd George.

“Ond wrth i mi weithio drwy’r cynnwys, cefais fy synnu.

“Mae’r ffordd y mae’n eich helpu i ddeall beth sy’n achosi eich straen – a sut i fynd i’r afael ag ef – yn hynod bwerus.”

I George, un o'r gwersi pwysicaf oedd dysgu nad ymyrraeth untro yw gofal iechyd meddwl.

“Bydd straen bob amser yn rhan o fywyd,” meddai. “Mae’n ymwneud â deall eich arwyddion rhybuddio a gwybod sut i’ch atal eich hun rhag mynd yn rhy bell.”

Mae gan bob defnyddiwr SilverCloud gefnogwr pwrpasol  sy'n rhoi cyngor ac anogaeth bob pythefnos – cymorth y mae George yn dweud oedd hefyd yn allweddol.

Mae’n egluro: “Rydw i bob amser wedi cael trafferth cydnabod fy llwyddiannau ac roeddwn i wedi arfer â siarad fy hun i lawr.

“Roedd cael adborth mor hyfryd ar fy nghynnydd yn wirioneddol ysgogol.

“Rydw i wedi argymell SilverCloud i gymaint o bobl sydd wedi bod yn cael trafferth gyda straen.

“Hyd yn oed os ydych chi mewn lle da nawr, mae'n dal yn werth ei wneud fel eich bod chi'n barod pan ddaw straen yn anochel.

“Pan fyddwch chi mewn lle tywyll, gall fod yn anodd credu y bydd unrhyw beth yn gweithio. Mae hyn yn gwneud i chi ymgysylltu, myfyrio a gweithredu.”

Dywedodd rheolwr prosiect Gwasanaeth CBT Ar-lein GIG Cymru, Fionnuala Clayton, fod stori George yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd camau ymarferol i gefnogi lles.

“Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ein hatgoffa bod cymryd camau gweithredu er lles yn aml yn dechrau trwy gydnabod pryd mae angen help arnom.

“Mae profiad George yn dangos sut y gall cael yr offer cywir ar yr amser cywir helpu pobl i ddeall straen yn well, adnabod eu harwyddion rhybuddio eu hunain ac adeiladu arferion i amddiffyn eu hiechyd meddwl yn y tymor hir.

“Mae SilverCloud® wedi’i gynllunio i weithio ochr yn ochr â bywydau bob dydd pobl, gan roi hyblygrwydd, cefnogaeth a sgiliau iddynt y gallant ddychwelyd atynt pryd bynnag y bydd eu hangen arnynt - ni waeth a ydynt yn cael trafferth nawr neu eisiau cymryd camau’n gynnar i aros yn iach.”

Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi cyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau. Am ragor o wybodaeth am SilverCloud® a chymorth ac adnoddau lleol eraill ewch i biphdd.gig.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi (agor mewn tab newydd) a chliciwch ar iechyd meddwl lles.