Neidio i'r prif gynnwy

Dyfodol iach i raddedigion gwyddoniaeth

25 Mai 2023

Mae graddedigion gwyddoniaeth yn parhau i ddilyn gyrfaoedd iechyd cyffrous fel Cymdeithion Meddygol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Fel Cymdeithion Meddygol (PA), bydd y graddedigion yn darparu cymorth amhrisiadwy i feddygon ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i wneud diagnosis a rheoli cleifion, gan weithio mewn llawer o wahanol feysydd gofal iechyd megis meddygaeth gyffredinol, llawfeddygaeth, pediatreg ac ymarfer cyffredinol mewn gofal sylfaenol.

Ymunodd Justin Lai, Cydymaith Meddygol sy’n gweithio yn yr Adran Gardioleg yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro â’r bwrdd iechyd yn 2018 ar ôl cwblhau gradd mewn gwyddoniaeth a Gradd Meistr Astudiaethau Cydymaith Meddygol. I ddechrau, bu Justin yn gweithio mewn gwahanol adrannau ar sail gylchdro ac mae bellach yn aelod o’r tîm cardioleg. Mae wedi ennill profiad o ddefnyddio ei sgiliau i wneud diagnosis a rheoli cleifion wrth barhau i addysgu cydweithwyr a chleifion am rôl a dyletswyddau Cydymaith Meddygol.

Yn aelod gwerthfawr o’r tîm meddygol, mae Justin yn parhau i redeg clinigau, gan ddarparu dilyniant i’r wardiau, yn ogystal â bod yn diwtor sgiliau clinigol yn yr adran addysg. Mae'n angerddol dros y rhaglen Cydymaith Meddygol ac mae wedi bod yn sbardun i'w datblygiad o fewn y bwrdd iechyd.

Dywedodd Justin: “Mae hon yn rôl glinigol allweddol lle gallwn gefnogi meddygon a chleifion fel ei gilydd i ddarparu triniaeth effeithiol ac effeithlon. Mae Cymdeithion Meddygol yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cyffredinol sydd wedi’u hyfforddi’n feddygol, sy’n gweithio ochr yn ochr â meddygon ac yn darparu gofal meddygol fel rhan annatod o’r tîm amlddisgyblaethol.”

Mae’r rôl yn cynnwys nifer o dasgau, gan gynnwys:

  • cymryd hanes meddygol gan gleifion
  • cynnal archwiliadau corfforol
  • gweld cleifion sydd â'r un diagnosis
  • gweld cleifion â chyflyrau cronig hirdymor
  • llunio diagnosis a chynlluniau rheoli
  • cyflawni gweithdrefnau diagnostig a therapiwtig
  • datblygu a chyflwyno cynlluniau triniaeth a rheoli priodol
  • gofyn am astudiaethau diagnostig a'u dehongli
  • darparu cyngor hybu iechyd ac atal afiechyd i gleifion.

Ar hyn o bryd, nid yw cymdeithion meddygol yn gallu rhagnodi na gofyn am belydr-x o'r frest na sganiau CT.

Dywedodd Pearl Butler, claf mewnol diweddar yn Ysbyty Llwynhelyg: “Mae parhad gofal yn bwysig. Roedd yn galonogol iawn gweld Justin ar y wardiau, yn golygu mwy o amser i'r claf, ac roedd ei wybodaeth yn wych. Diolch Justin.” 

Ychwanegodd yr Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Wrth i’r rhaglen PA barhau i ddatblygu, rwy’n falch iawn o weld ein cydweithwyr PA yn dod yn glinigwyr mwy sefydledig, gan ddod ag ymagwedd fwy hyblyg ar draws sawl maes o feddygaeth. 

“Mae’r rôl yn helpu ein staff i ddatblygu’n broffesiynol wrth helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau staffio a galw ar draws y system, ac, yn bwysicach, o fudd i’n cleifion.”

Mae'r proffesiwn wedi mynd o nerth i nerth yn y DU ac wedi arwain at lansio'r Gyfadran Cymdeithion Meddygol yn 2015. Ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn cyflogi cyfanswm o 25 o Gymdeithion Meddygol a'i nod yw recriwtio mwy yn y dyfodol.

Mae cwrs mynediad graddedig blaenllaw yn y DU ar gael i bobl sydd â gradd mewn gwyddoniaeth, sydd ar gael ym mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a all arwain at swyddi ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r GIG yn ehangach.

Dywedodd yr Athro Jeannie Watkins ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnig rhaglen flaengar sy’n cael ei hystyried yn un o’r atebion i argyfwng gweithlu’r GIG ac sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.

“Nod y proffesiwn PA yw creu ffrwd gweithlu newydd ar gyfer y GIG gan gymryd graddedigion gwyddoniaeth o safon a’u hyfforddi i ymarfer meddygaeth. Mae hyn wedi creu cyfleoedd cyflogaeth a llwybrau i ofal iechyd nad oeddent yn bodoli o'r blaen ac mae wedi cynyddu mynediad at ofal i gleifion. Mae Cymdeithion Meddygol sydd wedi cymhwyso o'n rhaglen yn gweithio ar y cyd â thimau meddygol ledled y wlad gan gefnogi a rhannu'r llwyth gwaith. Mae’r adborth gan y rhai sy’n gweithio gyda Cymdeithion Meddygol a chleifion sydd wedi cael eu trin ganddynt wedi bod yn hynod gadarnhaol.”

Dywedodd Merf Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Meddygol, sy’n arwain y cwrs ôl-raddedig dwy flynedd ym Mhrifysgol Bangor: “Mae MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn darparu llwybr gwych i’r gwyddorau meddygol. Mae’n wych gweld ein graddedigion o’r cwrs yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn gofal Sylfaenol ac Eilaidd, ac yn cyfrannu at ofal iechyd y genedl mewn rhanbarthau eraill. Mae’r cwrs ôl-raddedig yn ategu ein cyfres o gyrsiau meddygol a biofeddygol, gan gynnwys ein gradd Meddygaeth a gynigir o fis Medi 2024.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Dod yn Gydymaith Meddygol - Prifysgol Abertawe (agor mewn dolen newydd)  

Cydymaith Meddygol | Prifysgol Bangor (agor mewn dolen newydd)