Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu Marc Ansawdd Cenedlaethol Platinwm Iechyd a Llesiant

11 Ebrill 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) wedi ennill lefel Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol, y marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle.

Dywedodd yr Aseswr o Cymru Iach ar Waith, y sefydliad sy’n dyfarnu’r Marc Ansawdd Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Lles, eu bod wedi’u plesio gan yr ymrwymiad parhaus i iechyd a lles sydd wedi’i ymgorffori’n gadarn yn niwylliant y bwrdd iechyd a’i ymrwymiad i’r gymuned leol, yr amgylchedd naturiol a chynaliadwyedd. Rhai o’r mentrau a grybwyllwyd oedd:

  • Nifer o fentrau blaengar a llawn dychymyg gan gynnwys adeiladau newydd ac uwchraddio adeiladau presennol a ddangosir trwy dudalennau SharePoint.
  • Ymgysylltiad staff gyda ffocws clir ar yr amgylchedd a'r gymuned yn ganolog i gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda chefnogaeth lawn ac ymglymiad staff.
  • Symud tuag at gerbydau hybrid a thrydan ar draws y fflyd gyfan erbyn 2025.
  • Rhaglen Gweithlu’r Dyfodol gan gynnwys yr Academi Prentisiaid gyda 174 o brentisiaid, a chyflawniad ‘Gwobr Prentisiaeth Orau’ CIPD.
  • Datblygu cadwyni cyflenwi lleol a chydweithio â chyrff sector cyhoeddus eraill tuag at gaffael cynaliadwy a lleihau gwastraff.
  • Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio’r Bwrdd Iechyd.
  • Ymgynghori gweithredol gyda staff a'r gymuned ynghylch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
  • Meithrin gwytnwch gan gynnwys pwyslais ar iechyd meddwl a lles
  • Portffolio trawiadol a chynhwysfawr o dystiolaeth i gefnogi'r asesiad Platinwm - nid yw'r sefydliad wedi sefyll yn ei unfan.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Gweithlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn ein hachrediad aur diweddar gan Cymru Iach ar Waith, rwyf wrth fy modd bod Hywel Dda yn cael ei gydnabod a’i ddyfarnu â’r statws Platinwm. Mae’r wobr hon yn cydnabod gwaith caled ein timau a’n hymrwymiad parhaus i sicrhau iechyd a lles ein staff a’r effaith ehangach y mae ein sefydliad yn ei chwarae wrth gefnogi ein cymunedau lleol. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gyrraedd y safon hon.”

Enillodd Hywel Dda statws Platinwm am y tro cyntaf yn 2013 gydag ail-ddilysu yn 2017 a pharhaodd i ehangu a datblygu gweithgareddau. Ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Bwrdd Gynllun Adfer blynyddol yn canolbwyntio ar gefnogi staff i wella ar ôl y pandemig Covid a gosod y sylfeini gyda'r nod o adennill gwasanaethau i gefnogi cymunedau. Mae’r achrediad diweddar yn cydnabod ymrwymiad parhaus y Bwrdd Iechyd i arferion gweithio iach, mentrau a chymorth.