Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiadau ychwanegol ar gyfer ymgynghoriad Hywel Dda ar ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd

11 Ebrill 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ceisio barn staff ac aelodau o’n cymunedau am dri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, fel rhan o’n strategaeth ehangach i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 23 Chwefror, a gwahoddwyd unigolion a sefydliadau i rannu eu barn ar y rhestr fer o safleoedd erbyn 19 Mai 2023.

Y llynedd, cyflwynom gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3biliwn mewn iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus. Sail y cynllun yw dod â chymaint o ofal â phosib yn nes at gartrefi pobl. Rydym yn cynllunio ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau iechyd a gofal integredig, a fydd yn cael eu dylunio gyda chymunedau lleol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o’n strategaeth i’n helpu i ddarparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, drwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn gwella ac yn cynyddu’r gwasanaethau gofal arbenigol y gellir eu darparu ac yn mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog, gan gynnwys adeiladau sy’n heneiddio, problemau wrth gynnal rotâu meddygol dros sawl ysbyty, a recriwtio staff.

Mae ein hymgynghoriad yn nodi tri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: dau ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.

Nid oes gennym safle a ffefrir ac nid ydym wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle a darparu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto, ac os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda’n cymunedau i baratoi a darparu’r gwasanaethau iechyd a gofal gorau y gallwn.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Rydym wedi bod yn ymgysylltu ag unigolion a grwpiau trwy ein digwyddiadau ymgynghori yn bersonol ac ar-lein. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi dod draw i rannu eu barn a gofyn cwestiynau.

“Fel rhan o’r ymgynghoriad, rydych hefyd wedi dweud wrthym yr hoffech gael digwyddiadau ymgynghori ychwanegol i helpu’r rhai nad oeddent yn gallu bod yn bresennol, neu le’r oedd lleoliad y digwyddiadau yn ei gwneud yn anodd i rai cael mynediad iddynt. O ganlyniad, rydym yn ychwanegu pedwar digwyddiad ymgynghori galw heibio ychwanegol fel y rhestrir isod a digwyddiad ar-lein ychwanegol.”

Dydd Gwener 28 Ebrill

2pm-7pm

Canolfan Gymunedol Phoenix, 1 Heol Wern, Wdig SA64 0AA

Dydd Iau 4 Mai

2pm-7pm

Canolfan Gymdeithasol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau, SA73 2QT

Dydd Mawrth 9 Mai

2pm-7pm

Gwesty'r Castell, Ffordd y Brenin, Llanymddyfri SA20 0AP

Dydd Iau 11 Mai

2pm-7pm

Neuadd Fictoria, Heol y Bryn, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7EE

Dydd Mawrth 16 Mai

6:30pm

Ar-lein, cofrestrwch ar ein gwefan.

 

Mae manylion y rhain, ynghyd â’r dogfennau ymgynghori a’r holiadur, ar gael ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/safle-ysbyty-newydd/ dewch draw i rannu eich barn.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn fuan a chlywed eich barn.