Neidio i'r prif gynnwy

Dwy o ymchwilwyr BIP Hywel Dda yn derbyn Gwobr Amser Ymchwil y GIG

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

16/03/23

Mae dwy ymchwilydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i Gynllun Ariannu Dyfarniad Amser Ymchwil GIG Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd Dr Helen Munro, Ymgynghorydd ar gyfer Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymunedol a Dr Helen Tench, Arweinydd Tîm Ymchwil Clinigol yn Ysbyty Bronglais, hefyd yn elwa o ddod yn aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan roi mwy o gymorth iddynt drwy gydol y dyfarniad, i ddod yn aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r cynllun yn werth £450,000 i gyd ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig at gefnogi gwaith datblygu capasiti a gallu ymchwil yn GIG Cymru trwy ddarparu amser wedi’i ddiogelu, hyfforddiant a datblygiad i ymchwilwyr i’w cefnogi i fynd ar drywydd eu dyheadau ym maes ymchwil.

Bydd prosiect ymchwil Dr Helen Munro yn tyfu ac yn datblygu prosiectau ymchwil sylfaenol yng ngorllewin Cymru sy’n cyd-fynd â Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd menywod a merched.

Nod prosiect ymchwil Helen Tench, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, yw defnyddio moleciwlau bach sy’n ymwneud â’r adweithiau biocemegol sy’n digwydd mewn celloedd a meinweoedd i greu adnodd asesu difrifoldeb strôc ac adferiad newydd.

Dywedodd Dr Helen Munro: “Mae ennill y Wobr Amser Ymchwil yn anrhydedd ac yn gyfle anhygoel. Rwyf ar hyn o bryd yng nghamau cynnar fy ngyrfa ymchwil ac yn angerddol am ddatblygu cyfleoedd ym maes ymchwil iechyd menywod, yma yng ngorllewin Cymru.

“Er eu bod yn cyfrif am 51% o’r boblogaeth, nid yw gwasanaethau meddygaeth a gofal iechyd wedi diwallu anghenion menywod hyd yma, gan arwain at wahaniaethau sylweddol mewn gofal rhwng dynion a menywod, sydd ond wedi’i waethygu gan y pandemig.

“Mae anghydraddoldebau mewn darpariaeth iechyd yn costio eu hiechyd a’u lles i fenywod ac rwy’n awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad clinigol, rhwydweithiau strategol, a gwybodaeth arbenigol ym maes iechyd menywod i dyfu a datblygu prosiectau ymchwil sylfaenol yng ngorllewin Cymru i gefnogi gwell gofal i fenywod Cymru.”

Dywedodd Dr Helen Tench: “Bydd y Wobr Amser Ymchwil yn fy ngalluogi i arwain fel Prif Ymchwilydd ar astudiaeth strôc mewn cydweithrediad â chydweithwyr ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Nod yr astudiaeth yw defnyddio moleciwlau bach sy’n ymwneud â’r adweithiau biocemegol sy’n digwydd mewn celloedd a meinweoedd, a elwir yn fetabolion, i greu adnodd asesu difrifoldeb strôc ac adferiad newydd. Y gobaith yw y bydd yr adnodd hwn ynghyd ag asesiadau cleifion cyfredol yn rhoi gwell dealltwriaeth i glinigwyr a darparwyr gofal iechyd eraill o ddifrifoldeb strôc y claf a’r potensial i wella.

“Yna gellir defnyddio’r wybodaeth ychwanegol hon wrth gynllunio triniaeth a darparu adnoddau, er enghraifft, ar gyfer cleifion yr asesir bod ganddynt botensial adferiad uchel, gall adsefydlu mwy ymosodol fod yn briodol, ac os oes gan y claf botensial gwellhad is, efallai y bydd y driniaeth yn canolbwyntio mwy ar reoli symptomau a gwella ansawdd bywyd a sicrhau darpariaeth gofal cymdeithasol da.

 

“Ar y cyfan, nod yr astudiaeth yw rhoi mwy o wybodaeth i ddarparwyr gofal strôc am ddifrifoldeb strôc claf strôc a’r potensial i wella er mwyn helpu i wella ansawdd y gofal y maent yn ei dderbyn a chynyddu’r tebygolrwydd o ganlyniad cadarnhaol.”

 

Meddai’r Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr, Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “Dyma’r garfan gyntaf i dderbyn dyfarniadau ers creu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Trwy aelodaeth o’r Gyfadran, byddan nhw’n gallu manteisio ar gefnogaeth cymuned o ymchwilwyr yn ogystal â chyfleoedd dysgu a datblygu a fwriedir i gyflymu eu datblygiad ar hyd eu llwybrau gyrfa ymchwil unigol.

 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld eu sgiliau hymchwil ar draws amrywiaeth o feysydd blaenoriaeth yn datblygu a gweld y cyfraniadau positif y gallan nhw eu gwneud at iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

 

A photo portrait of a young woman smiling at the camera A photo portrait of a young woman smiling at the camera

DIWEDD

 

Nodiadau i’r golygyddion:

Ynglŷn ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw cangen cyflenwi a brand allanol Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, prifysgolion, llywodraeth leol, arianwyr ymchwil eraill, cleifion a’r cyhoedd i ariannu, cefnogi a chynyddu ymchwil sy’n gallu trawsnewid bywydau, sy’n hybu twf economaidd ac sy’n hyrwyddo gwyddoniaeth.
 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm cyfathrebu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Ymchwiliechydagofal@wales.nhs.uk