Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud ar Ymgysylltiad Adolygiad Gwasanaeth GCTMB

3 Ebrill 2023

Mae dyddiadau cyntaf sesiynau ymgysylltu’r Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) wedi’u cyhoeddi gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans (PGGA), sy’n gyfrifol am arwain y broses ymgysylltu Cymru gyfan.

Mae’r broses ffurfiol o ymgysylltu â’r cyhoedd, mewn perthynas ag y GCTMB sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, wedi dechrau’r mis hwn gyda chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu dros gyfnod o chwe wythnos.

Mae Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy, wedi’i benodi gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) i archwilio a gwneud y mwyaf o’r gweithgarwch ychwanegol y gellid ei gyflawni o’r canolfannau presennol ac i archwilio opsiynau i ad-drefnu’r gwasanaeth ambiwlans awyr.

Mae’r amserlen ymgysylltu yn dangos sut mae cymysgedd o sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd yn cael eu cynnig i gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb, sesiynau galw i mewn, a sesiynau rhithwir ar-lein gan roi amrywiaeth o opsiynau i bobl ddarparu adborth yn ystod cyfnod cychwynnol o chwe wythnos.

Dywedodd Mr Harrhy: “Bydd Adolygiad Gwasanaeth GCTMB yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod y cleifion sydd angen y gwasanaeth gofal critigol pwysig hwn yn gallu cael mynediad ato ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu pan fydd ei angen arnynt.

“Gwyddom fod Y GCTMB yn achub bywydau a bod cleifion sy’n cael eu trin gan y gwasanaeth  yn gwella’n well ac yn gyflymach, felly bydd yr Adolygiad diduedd hwn yn ystyried sut y gallai cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru elwa o’r gwasanaeth hwn, yn ogystal ag ystyried y defnydd mwyaf effeithiol o sgiliau glinigol ac adnoddau eraill.

“Rydym wedi cael diddordeb mawr gan randdeiliaid yn Adolygiad Gwasanaeth GCTMB ac rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau a wnaed hyd yma at lunio’r broses ymgysylltu sy’n dangos sut rydym wedi gwrando ar randdeiliaid ac wedi ystyried yr awgrymiadau hyn. Hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi ein cefnogi i wneud y trefniadau hyn mewn ardaloedd lleol.

“Rydym yn disgwyl rhai cadarnhad o leoliadau o hyd ac felly byddwn yn diweddaru’r amserlen ar wefan y PGAB cyn gynted ag y bydd yr holl fanylion wedi’u cadarnhau.

“Yn ogystal â’r amserlen graidd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd sydd gennym hyd yn hyn, rwy’n awyddus i dderbyn cynigion o unrhyw leoliadau ychwanegol gan randdeiliaid sy’n teimlo y byddai’n fuddiol eu hystyried gan fy mod eisiau i gynifer o bobl â phosibl ddweud eu dweud. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ein croesawu anfon e-bost i wneud trefniadau gyda fy nhîm.”

Yn ogystal â’r sesiynau cyhoeddus ar yr amserlen, bydd strwythurau ymgysylltu sefydledig Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid y Byrddau Iechyd (GCRh) a’r Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC – Llais yn fuan o Ebrill 01, 2023) yn cael eu cysylltu â, ac hefyd mae grwpiau ffocws sampl cynrychioliadol yn cael eu cydgysylltu.

Yn barod ar gyfer yr ymgysylltiad hwn, mae cryn dipyn o wybodaeth wedi’i chyhoeddi ar wefan y PGAB sy’n cynnwys fideo esbonio ac adran cwestiynau cyffredin fanwl am y Gwasanaeth.

Eglurodd Mr Harrhy: “Rydym yn cydnabod bod llawer o wybodaeth gymhleth i’w chyfleu am yr agweddau clinigol a gweithredol ar sut mae’r Gwasanaeth yn gweithio nawr y bydd angen eu deall er mwyn darparu adborth. Rwy’n annog pawb yn fawr i ddefnyddio’r wybodaeth hon cyn mynychu unrhyw un o’r sesiynau ymgysylltu gan y dylai helpu i egluro unrhyw ymholiadau.”

Gan gydnabod y gall sesiynau rhithwir fod yn ffordd fwy cyfleus i lawer o bobl roi adborth, mae tîm y PGAB hefyd wedi cynhyrchu canllaw sy'n nodi sut i fynychu'r cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer y rhai sy'n anghyfarwydd â'r platfform.

Mae’r holl ddiweddariadau briffio a gyhoeddwyd yn flaenorol yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan y PGAB Newyddion - Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (gig.cymru), ond gall unrhyw un a hoffai dderbyn copi wedi’i e-bostio’n uniongyrchol anfon e-bost yn gofyn am gael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu.

 

DIWEDD