Neidio i'r prif gynnwy

Dweud Eich Dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn BIP Hywel Dda

23 Ionawr 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn datblygu gweledigaeth newydd ar gyfer y celfyddydau ac iechyd i wella iechyd a llesiant cleifion, cymunedau a staff ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro drwy ymgysylltu â’r celfyddydau.

Mae gan y Tîm Celfyddydau ac Iechyd weledigaeth a rennir gyda Chanolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, sef gweithio tuag at sicrhau bod pawb yn byw bywyd iach, yn llawn llawenydd, pwrpas a theimlad o berthyn. Gweledigaeth y bobl a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt i fod yn: Gysylltiedig - gallu byw a gweithio gyda'i gilydd; Cefnogol - gallu helpu ei gilydd; Addasu - gallu newid fel y bo angen; Gwydn - gallu bownsio'n ôl pan fyddant yn wynebu heriau; Dyfeisgar - gallu dod o hyd i ffyrdd o oresgyn problemau.

Mae tîm y Celfyddydau ac Iechyd yn gweithio tuag at y weledigaeth hon drwy'r celfyddydau a cherddoriaeth. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae tîm y Celfyddydau ac Iechyd yn awyddus i adeiladu ar y wybodaeth a’r sylfaen dystiolaeth gynyddol sy’n dweud wrthym fod gan y celfyddydau rôl bwerus i’w chwarae wrth gefnogi iechyd a llesiant.

Dywedodd Kathryn Lambert, Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd, “O waith ymchwil, rydym wedi gweld bod celf yn arf i archwilio, datblygu ac ymarfer creadigrwydd fel ffordd o sicrhau lles. Dyna pam yr ydym wedi ymgorffori creadigrwydd a chelfyddydau i gefnogi llesiant ein staff, y claf a’r gymuned.

Mae'r fenter hon ar eich cyfer chi, ac rydym eisiau gwybod pa raglenni yr hoffech i ni eu rhoi ar waith. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y gorau o bŵer iachau’r celfyddydau”

Er mwyn ein helpu i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y celfyddydau ac iechyd, rydym am i chi wybod beth yw eich barn.

Hoffem wybod:

• Sut gallai'r celfyddydau helpu i wella iechyd a lles pobl ledled Hywel Dda?

• Sut gallai celf a cherddoriaeth wella ansawdd eich profiad ysbyty neu ofal?

• Sut gallai'r celfyddydau a chreadigrwydd fod wedi'ch helpu chi? Hoffem wybod eich stori.

Bydd “gweledigaeth a chynllun y Celfyddydau ac Iechyd” newydd ar gyfer Hywel Dda yn cael eu datblygu allan o’r broses ymgysylltu i arwain Tîm y Celfyddydau ac Iechyd i sicrhau bod creadigrwydd wrth galon ein holl wasanaethau.

I gael gwybod mwy, ewch i'n platfform ymgysylltu ar-lein Dweud eich dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn Hywel Dda | Dweud eich Dweud BIP Hywel Dda (agor yn dolen newydd) neu e-bostiwch kathryn.lambert@wales.nhs.uk.

Os nad yw cymryd rhan yn ddigidol yn addas i chi, rydym yn hapus i glywed gennych trwy sianeli eraill. Cysylltwch â'n Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd dros y ffôn 0300 303 8322 Pwyswch 5 am unrhyw wasanaethau eraill