Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ail gam o ymgynghoriad ynghylch sut y gellid darparu gwasanaethau strôc ar draws Hywel Dda. Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud, ac mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i ffurfio'r hyn sy'n digwydd nesaf.
Sut i gymryd rhan
Mae'r ymgynghoriad ar agor rhwng 28 Mai a 26 Gorffennaf 2026 ac mae sawl ffordd i gymryd rhan.
Os ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn dymuno i ni ddod i gwrdd â chi, cysylltwch â ni i drefnu sesiwn. Cysylltwch â ni drwy e-bost hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk, neu drwy ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5)
Mae ein digwyddiadau lleol yn cael eu cynnal ar:
Dydd Llun 15 Mehefin 2026, 2.00pm - 7.00pm, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli, SA15 3AE
Dydd Mawrth 16 Mehefin 2026, 2.00pm - 7.00pm, Clwb Rygbi Hwlffordd, Hwlffordd, SA61 1LY
Dydd Llun 22 Mehefin 2026, 2.00pm - 7.00pm, Neuadd y Ddinas Tyddewi, Tyddewi, SA62 6SD
Dydd Mercher 24 Mehefin 2026, 2.00pm - 7.00pm, Clwb Rygbi Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 1HL
Dydd Mawrth 30 Mehefin 2026, 2.00pm - 7.00pm, Y Plas, Machynlleth, SY20 8ER
Dydd Llun 6 Gorffennaf 2026, 2.00pm - 7.00pm, Canolfan Creuddyn, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BN
Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2026, 2.00pm - 7.00pm, Neuadd Pater, Doc Penfro, SA72 6DD
Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026, 2.00pm - 7.00pm, Gwesty'r Ivy Bush Royal, Caerfyrddin, SA31 1LG
Mae ein digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal ar:
Dydd Iau 18 Mehefin am 6:30pm, a dydd Mawrth 7 Gorffennaf am 6:30pm
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad ar-lein trwy rannu eich manylion yma (yn agor mewn tab newydd)
Rydym eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys cleifion, teuluoedd, gofalwyr, staff a chymunedau lleol. Gallwch ddweud wrthym a ydych chi'n cefnogi'r opsiwn a ffefrir a pham, a rhannu eich barn ar opsiynau amgen blaenorol. Mae hwn yn gyfle i chi ein helpu i ddeall unrhyw effeithiau y gall y cynigion eu cael arnoch chi, eich cymuned, yr iaith Gymraeg neu gydraddoldeb.
Beth sy'n cael ei gynnig
Mae'r opsiwn a ffefrir yn cynnwys:
Gallwch hefyd rannu eich barn ar yr opsiynau eraill sydd wedi'u hystyried.
Pam mae hyn yn bwysig
Ar hyn o bryd nid yw gofal strôc ar draws Hywel Dda yn bodloni safonau cenedlaethol yn gyson. Mae gwasanaethau wedi'u gwasgaru ar draws pedwar ysbyty ac nid yw gofal strôc arbenigol ar gael saith diwrnod yr wythnos ym mhob lleoliad. Gall hyn effeithio ar adferiad a chanlyniadau i gleifion.
Yn dilyn ymgysylltu cynharach yn 2025, mae gwaith pellach wedi'i wneud i brofi opsiwn a ffefrir. Mae hyn bellach wedi'i ddatblygu, gan dynnu ar syniadau a gyflwynwyd yn flaenorol fel rhan o'r ymgynghoriad cynharach.
Mae'r holl wybodaeth am y cynnig, a'r holiadur ymgynghori ar gael ar ein tudalennau gwe ymgynghori (yn agor mewn tab newydd). Darperir deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau ac ieithoedd i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan.
Rhannwch eich barn erbyn 26 Gorffennaf a helpu i lunio dyfodol gofal strôc yn ein hardal.