Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Twbercwlosis y Byd: Nodyn atgoffa i gysylltiadau gyda TB yn Llwynhendy i gael eu sgrinio

24 Mawrth 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn cymryd y cyfle ar Ddiwrnod TB y Byd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i ailadrodd eu galwad i bobl y cysylltwyd â nhw fel rhan o'r achosion o dwbercwlosis Llwynhendy (TB) fynd i'w hapwyntiadau sgrinio.

Diwrnod TB y Byd yw diwrnod blynyddol Sefydliad Iechyd y Byd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effeithiau iechyd cyhoeddus byd-eang twbercwlosis, ac i ddathlu'r ymdrechion i roi terfyn ar TB ledled y byd. Mae TB gweithredol yn salwch heintus difrifol, ond gellir ei drin os caiff ei nodi'n gynnar.

Mae dros 2600 o bobl wedi mynychu'r ymarfer sgrinio cymunedol parhaus a ddechreuodd ym mis Mehefin 2019, ond mae 485 o bobl wedi'u nodi fel cysylltiadau a'u gwahodd i gael eu sgrinio nad ydynt wedi mynd i'w hapwyntiadau sgrinio eto. 

Mae'r Tîm Rheoli Achosion (OCT) sy'n rheoli'r ymateb i'r achosion, yn awyddus i bwysleisio mor bwysig ydyw i'r rhai a wahoddir i gael eu sgrinio ddod ymlaen nawr i fynd i'w hapwyntiadau.

Meddai Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cadeirydd yr OCT: “Rydym yn ddiolchgar iawn i gymuned Llwynhendy am eu cymorth wrth ddod i gael eu sgrinio mewn niferoedd mor fawr.  Mae wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu i reoli'r achosion.

“Os oes rhywun wedi cysylltu â chi yn y gorffennol a gofyn i chi ddod i apwyntiad sgrinio, nawr yw'r amser i gael prawf.  Mae TB yn salwch difrifol, ond mae gwneud diagnosis cynnar ohono drwy sgrinio yn rhoi'r cyfle gorau i ni ei drin yn effeithiol, felly byddwn yn annog unrhyw gysylltiadau nad ydynt wedi cysylltu â ni i ffonio 0300 303 9642 i wneud apwyntiad.

“Mae'n bwysig iawn ein bod yn sgrinio'r holl gysylltiadau a nodwyd a sicrhau bod unrhyw un sy'n cael diagnosis o TB cudd neu weithredol yn cael y monitro neu'r driniaeth sydd eu hangen arnynt i atal unrhyw ledaeniad pellach.”

Mae 31 o achosion o TB gweithredol wedi'u nodi ers 2010 yn ystod yr achosion. 

Yn ogystal, ers 2010 yn yr achosion yn gyffredinol, mae 303 o bobl – neu fwy nag un o bob deg o'r rhai sydd wedi cael eu sgrinio - wedi cael diagnosis o TB cudd.  Nid yw TB cudd yn heintus ac nid yw'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl, ond gall ddatblygu'n TB gweithredol yn ddiweddarach.  O ganlyniad, mae'n bwysig bod pobl â TB cudd yn cael eu nodi fel y gellir eu monitro a sicrhau eu bod yn cael triniaeth briodol.

Os oes rhywun wedi cysylltu â chi fel rhan o'r achosion o TB yn Llwynhendy a gofyn i chi wneud apwyntiad ar gyfer sgrinio TB yn y gorffennol, ni waeth pa mor bell yn ôl, ffoniwch 0300 303 9642 i wneud apwyntiad.

Ni ddylai unigolion sydd â symptomau aros i gael eu sgrinio, ond dylent ofyn am gyngor clinigol gan eu meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.

Mae symptomau clefyd TB fel a ganlyn:

  • Peswch sy'n para am dair wythnos neu fwy, nad yw'n ymateb i feddyginiaeth arferol ac yn parhau i waethygu
  • Twymyn (tymheredd uchel)
  • Chwysu cymaint yn y nos fel bod angen newid y cynfasau gwely
  • Colli pwysau am ddim rheswm
  • Blinder (diffyg egni neu flinder eithafol)
  • Colli archwaeth
  • Peswch gwaed (mae hyn yn brin iawn ond bydd angen cyngor meddygol ar unwaith).

I gael rhagor o wybodaeth am TB, ewch i wefan GIG 111 Cymru yma.