Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod llesiant yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais i ddweud diolch i staff

05 Awst 2022

Trefnodd Hyrwyddwyr Llesiant a benodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yng Ngheredigion Ddiwrnod Llesiant yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth fis diwethaf i ddiolch am yr holl waith caled a wnaed gan staff.

Trefnodd Catherine Ruff, Cynghorydd Gweithlu, a Carly Butler, Ysgrifennydd Tîm y Gweithlu, y digwyddiad a oedd yn cynnig cyfle i staff gael seibiant o’u diwrnod prysur.

Dywedodd Steve Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Rwyf wrth fy modd bod digwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal i helpu i bwysleisio pwysigrwydd a manteision llesiant yn y gweithle, boed hynny’n ofod ffisegol i staff gymryd hoe a chael seibiant, sgwrs neu daith gerdded wedi'i chynllunio yn yr awyr iach. Y nod yw i staff deimlo'n well yn y gweithle sydd yn ei dro yn cynnig profiad gwell i gleifion. Gobeithio bydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn cael eu trefnu maes o law. Fy niolch diffuant i Cath a Carly am eu cyfraniad ardderchog i wneud i hyn ddigwydd.”

Roedd y gweithgareddau a gynigiwyd ar y diwrnod yn cynnwys lluniaeth a chyfle i siarad, gan fwynhau natur a golygfeydd hyfryd o amgylch yr ardal gyda thaith gerdded 10 munud, mwynhau tylino ysgwydd am ddim a dysgu am gyfleoedd gwych, gan gynnwys cyfeillion cerdded, cyfeillion ffôn, a grwpiau lleol fel ffotograffiaeth, gwylio adar, crwydro, digwyddiadau chwaraeon, cadwraeth, a llawer mwy.

Anogwyd rheolwyr yn arbennig i fynychu’r digwyddiad hwn wrth iddynt jyglo cefnogi eu staff, anghenion y gwasanaeth a gofal cleifion, ac mae eu timau’n aml yn troi atynt am arweiniad, cyfeiriad, ac fel rhywun y gall y tîm ymddiried ynddynt.

Dywedodd Carly Butler, trefnydd y Diwrnod Llesiant ac ysgrifennydd tîm y gweithlu: “Croesawodd ein cydweithwyr yng Ngheredigion y cyfle hwn i fyfyrio ar eu llesiant eu hunain ac i ddysgu a defnyddio’r cymorth a’r gweithgareddau sydd ar gael iddynt o fewn y bwrdd iechyd a hefyd allan yn y gymuned.”

“Rydym mor ddiolchgar am y gefnogaeth gan lawer o fusnesau lleol yng Ngheredigion, gan gynnwys Morrisons, Aberystwyth, a gyfrannodd fyrbrydau a diodydd oer am ddim ar y diwrnod, a chynigion eraill o ostyngiadau gan Aber Sports, Aber Dads, Cyngor ar Bopeth a mwy. Daeth y digwyddiad hefyd â gwasanaethau o fewn y bwrdd iechyd ynghyd, megis y Gwasanaeth Llyfrgell, tîm Cyffuriau ac Alcohol, Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol, gan gynnwys y tîm Buddiannau Staff, Gwasanaeth Lles Seicolegol Staff ac Iechyd Galwedigaethol, Rhoi’r Gorau i Ysmygu, Cefnogaeth Ysbrydol, Ffisiotherapi, Adran Iechyd Gwyrdd, Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Bwyd.”

Cafodd pawb ddiwrnod da yn y gwaith ac mae’r tîm yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol i barhau i gefnogi llesiant cydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd.