Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod agored llwybr carlam yn chwilio am recriwtiaid iechyd newydd

23 Awst 2022

Diwrnod agored gwahanol er mwyn sicrhau recriwtiaid newydd i'n GIG lleol yn Sir Benfro.

Trefnwyd y digwyddiad recriwtio, a gynhaliwyd ar 22 Awst 2022 yng Ngholeg Sir Benfro, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac fe’i mynychwyd gan bobl a oedd wedi cofrestru eu diddordeb mewn gwneud cais am rolau cymorth gofal iechyd mewn gofal yn y cartref, yn dilyn ymgyrch hysbysebu ddiweddar.

Roedd yr agwedd arloesol at y digwyddiad yn golygu nad oedd yn ofynnol i’r bobl hynny gyflwyno ffurflen gais na mynd drwy broses llunio rhestr fer yn y ffordd draddodiadol. O’r digwyddiad recriwtio cyntaf hwn, y gobaith yw y bydd y bwrdd iechyd yn recriwtio tua 20 o weithwyr cymorth gofal iechyd i weithio yn Sir Benfro.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol: “Rydym yn gweithio’n galed i wella ein prosesau recriwtio, ac mae’r dull newydd hwn, drwy ddileu’r gofyniad i lenwi ffurflen gais, wedi bod yn llwyddiannus hyd yma.

“Rydym hefyd yn gweithio ar fentrau eraill i’w gwneud yn haws ac yn gyflymach i bobl sy’n gwneud cais am swyddi gyda ni ac rydym yn bwriadu lansio’r rhain maes o law.

“Bydd rôl y gweithiwr cymorth gofal iechyd yn cryfhau gofal yn y cartref ar draws Sir Benfro, gan adlewyrchu strategaeth a gweledigaeth y bwrdd iechyd i greu canolbarth a gorllewin Cymru iachach.”

Ychwanegodd Sonia Hay, Rheolwr Cyffredinol Gofal Cymunedol a Sylfaenol yn Sir Benfro: “Mae safon y bobl a ddaeth i’r digwyddiad hwn wedi creu argraff fawr arnom ac rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo i recriwtio staff newydd o ganlyniad.”

Mae'r fenter recriwtio hon mewn partneriaeth ag Awdurdod Lleol Sir Benfro mewn ymgais i gynyddu capasiti gofal cymunedol yn y sir. Mae’r bwrdd iechyd ac Awdurdod Lleol Sir Benfro hefyd yn recriwtio 15 o brentisiaid iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, y cyfle prentisiaeth cyntaf o’i fath yng ngorllewin Cymru.

Os ydych yn ystyried gyrfa yn y GIG, ewch i https://biphdd.gig.cymru/swyddi/ (agor mewn dolen newydd)  neu dilynwch ni ar

  • Facebook @SwyddiHywelDdaJobs
  • Twitter @SwyddaHDdaJobs
  • LinkedIn Hywel Dda University Health Board