Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Prosiect Cemo Bronglais

Artist impression of the new Bronglais chemo unit

04 Awst 2023
 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhannu cyfres o ddelweddau cysyniad a thrywyddau ar gyfer yr uned ddydd canser newydd yn Ysbyty Bronglais.

Mae cynllun yr uned, sy'n dal i fod yn ei gamau cynnar, yn cael ei ddatblygu gyda'r nod o wella cysur a chanlyniadau cleifion ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion newydd, gan gynnwys canopi a mynedfa bwrpasol i ddarparu mynediad uniongyrchol i'r cyfleusterau; cilfannau triniaeth preifat; golau naturiol; ardaloedd cymdeithasol; a chyfleuster Macmillan.

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol BIP Hywel Dda ar gyfer Ceredigion, a Chyfarwyddwr Prosiect: “Mae’n wych ein bod yn gallu dechrau rhannu ein gweledigaeth ar gyfer yr uned newydd yn Ysbyty Bronglais gyda’n cymuned sydd wedi ein helpu i wireddu hyn drwy godi dros £500,000 i drawsnewid yr uned bresennol yn gyfleuster modern ac addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae ein tîm prosiect ymroddedig yn parhau i ddatblygu cynllun technegol manwl a fydd yn sicrhau bod yr uned yn bodloni’r safonau uchaf ac, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y bwrdd iechyd yn mynd allan i dendr yn ddiweddarach yn yr haf i benodi contractwr, gyda’r nod o ddechrau’r gwaith adeiladu yn gynnar y flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd Dr Elin Jones, Oncolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Bronglais, ac arweinydd clinigol y prosiect: “Mae hwn yn brosiect y bu hir ddisgwyl amdano a dim ond trwy haelioni ein cleifion, eu perthnasau, a’r cyhoedd y mae’n dod yn realiti.

“Rydym wedi bod mor angerddol am gyflawni hyn dros y blynyddoedd ac wedi gwirioni ein bod ni fel tîm wedi gallu gwireddu hyn i’n cleifion sy’n haeddu’r cysur, y preifatrwydd a’r urddas y bydd yr uned newydd yn ei gynnig.

“Yn yr hydref, byddwn yn derbyn uned cymorth symudol Gofal Canser Tenovus yn Ysbyty Bronglais fel bod ein cleifion yn dal i allu cael eu triniaeth yma tra bod y gwaith adeiladu yn digwydd.

“Rhan gyffrous iawn o’r prosiect yw ymgorffori Celfyddydau mewn Iechyd a fydd yn ein helpu i feddwl sut y dylai’r uned deimlo, a gwneud i’r claf deimlo, a sut y dylai gysuro’r rhai sy’n dod i mewn i’r uned.

“Yn fuan iawn byddwn yn rhannu sut y gall cleifion a’r cyhoedd fod yn rhan o’r gwaith hwn, felly mae hon yn wir yn uned y mae’r cyhoedd wedi’i hariannu, a bydd y cyhoedd yn gallu bod yn rhan ohoni.”

Mae diweddariad ar ffurf fideo byr ar Brosiect Cemo Bronglais ar gael i'w wylio yma