Ar hyn o bryd rydym yn rheoli achosion o scabies ar Wardiau Cadog a Dewi yn Ysbyty Glangwili.
Fel rhagofal, mae'r wardiau ar gau dros dro i dderbyniadau ac ymwelwyr newydd o heddiw, dydd Mawrth 20 Hydref. Mae'r sefyllfa'n cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae'r risg i'r cyhoedd ehangach yn parhau i fod yn isel.
Mae mesurau atal heintiau ychwanegol a rhaglen driniaeth gydgysylltiedig ar waith i amddiffyn cleifion, staff ac ymwelwyr a helpu i atal lledaeniad pellach.
Bydd unrhyw gleifion sydd wedi cael eu rhyddhau o'r wardiau yn ddiweddar yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol.
Rydym yn cydnabod y gall rhagofalon ychwanegol fod yn anghyfleus i gleifion a theuluoedd ac yn diolch i bawb am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'r wardiau yn uniongyrchol.
Iechyd, diogelwch a lles ein cleifion, ymwelwyr a staff yw ein blaenoriaeth. Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol ac wedi cymryd camau ychwanegol i leihau'r risg o ledaenu'r haint.
Mae scabies yn gyflwr croen cyffredin a achosir gan widdon microsgopig a gall effeithio ar bobl o bob oedran. Er ei fod yn heintus iawn trwy gyswllt croen i groen hirfaith neu ddillad gwely neu ddillad a rennir, gyda phartneriaid ac aelodau o'r cartref, nid yw fel arfer yn gysylltiedig â salwch difrifol a gellir ei drin yn effeithiol. Mae'n bwysig nodi nad yw scabies yn gysylltiedig â hylendid personol gwael, a gall unrhyw un gael ei effeithio.
I gael rhagor o wybodaeth am scabies a sut i'w adnabod a'i drin, ewch i'n hadran Scabies (agor mewn dolen newydd).