Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais

Arwydd Ysbyty Bronglais

25 Mai 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn falch o roi diweddariad am ddatblygiad yr uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais, sydd ar y trywydd iawn i agor ddiwedd 2024.

Gyda chymorth a chefnogaeth pobl o bob rhan o Geredigion a thu hwnt, cyrhaeddwyd y targed codi arian o £500,000 mewn dim ond 10 mis, gan alluogi’r weledigaeth o uned cemotherapi newydd sbon ar gyfer pobl leol i ddod yn realiti.

Mae tîm prosiect ymroddedig bellach yn datblygu dyluniad manwl, technegol a fydd yn sicrhau bod yr uned yn bodloni'r safonau uchaf, gan ddarparu lle diogel a chroesawgar i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y bwrdd iechyd yn mynd allan i dendr yn ddiweddarach yn yr haf i benodi contractwr, gyda'r nod o ddechrau'r gwaith adeiladu yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae cynllunio hefyd yn mynd rhagddo i alluogi gwasanaethau dydd cemotherapi i barhau mewn cyfleuster dros dro tra bod gwaith adeiladu’n digwydd. Bydd diweddariadau pellach ynghylch y cyfleuster dros dro hwn yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Ceredigion a Chyfarwyddwr Prosiect: “Ar ran pawb sy’n gweithio i wireddu hyn, hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u cefnogaeth.

“Wrth i’n cynllunio symud ymlaen, byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud.

“Ochr yn ochr â’r paratoadau ar gyfer dechrau’r gwaith adeiladu, rydym hefyd yn meddwl ymlaen at sut y bydd yr uned yn edrych unwaith y bydd wedi’i chwblhau.

“Ymwelodd Dr Elin Jones ac aelodau o’n Tîm Celfyddydau mewn Iechyd â’r Senedd yn ddiweddar i ddysgu mwy am y gwaith cydweithredol a wnaed gydag artistiaid, cleifion, staff a’r gymuned leol i ddatblygu’r amgylchedd yn Uned Gofal Lliniarol Y Bwthyn ym Mhontypridd.

“Mae sicrhau bod amgylchedd yr uned yn cael ei ddatblygu fel rhan o ymdrech ar y cyd â chleifion, staff a rhanddeiliaid yn hanfodol ac edrychwn ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau ar y gwaith hwn.”

Bydd un o bob dau o bobl ledled Cymru yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod eu hoes; mae'n gyflwr sydd yn anffodus yn effeithio ar bron bob teulu. Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn derbyn triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais, cyfanswm o tua 300 o bobl y flwyddyn o bob rhan o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

Bydd yr uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais yn darparu ardal driniaeth bwrpasol fwy i gleifion, gan gynnwys cyfleuster ynysu, ynghyd â mannau derbyn, cleifion allanol ac mewnol, yn ogystal ag ystafelloedd ymgynghori ac archwilio. Bydd cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys ystafell gyfarfod gyda chyfleusterau fideo-gynadledda, ystafelloedd cwnsela a mannau preifat i gleifion.

Mae Apêl Cemo Bronglais bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rhagwelir y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.